Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/97

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

pur! Yr oedd ei enaid fel tannau telyn arian i rai o deimladau cryfaf, tyneraf, dyfnaf ac uchaf natur dyn. Profodd arteithiau newyn am flynyddoedd. Gorchfygodd hwy trwy ei lafur gonest ei hun. Teimlodd i'r byw, droeon di-rif, dan ddylanwadau llais y nef. Ymgeisiai rhag ysgrifennu un gair a lygrai Enynnodd a llefarodd ganwaith dros ei ryw, ac yn erbyn anwiredd. Plygai ei galon yn isel o flaen pob gwir sancteiddrwydd. Dyrchafwyd ef gan ei holl genedl Ond aeth ei wedd yn ofnus ac ingol pan agosâi at y cyfnewidiad mawr. Ymgrymai a dychrynai o flaen y Purdeb ofnadwy at yr hwn y dynesai. Dwys weddïau yn ei oriau olaf! Nid dieithr oedd iddo ymbil ar Dduw. Pa le yr êl un ysbryd ond lle yr esgynnai ei ddymuniadau dyfnaf, a phwy a'i hadwaenai a all amau pa le, er holl amrywiaeth ei feddyliau, yr a'i dwys ddyhead ei galon ef.