Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/22

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Dolgellau—Crynodeb o bapyr yr Hybarch S. Evans, Llandegla—Nodwedd MR. WILLIAMS fel gweinidog a bugail—Llythyr y Parch. R. Roberts, Rhos—MR. WILLIAMS yn addaw myned i bregethu i'r Beast Market, Wrexham—Cael oedfa hynod yno—Gweinidog perthynol i'r Ranters yn tystio mai o dan bregeth MR. WILLIAMS yr argyhoedd— wyd ef—Merch ieuanc o'r Frondeg yn ymuno â'r Ranters yn Wrexham—Ei mam yn pryderu yn ei chylch MR. WILLIAMS yn tawelu ei meddwl— Tystiolaeth y Parch. J. Rowlands, Talsarn, am "Bregeth y mamau "yn y Rhos

PENNOD IX.

Tystiolaeth yr Hybarch Humphrey Ellis, Llangwm, am MR. WILLIAMS fel pen teulu—Ysgrifau y Parch. J. Thomas, Leominster, ar Robert Jones, Y Stryd—Llythyr yr Hybarch D. M. Davies, Talgarth—MR. WILLIAMS yn pregethu yn Nghapel Iwan, Sir Gaerfyrddin Cymanfa Trelech —Mr. Davies, Talgarth, yn pregethu yn y Wern— Morwyn MR. WILLIAMS yn ceisio ganddo ail adrodd un pen o'i bregeth iddi—Tystiolaethau Miss Jones, Plas Buckley, a Mr. William Jones, Rossett, am grefyddolder Mr. Williams yn ei deulu—Tystiolaeth Mrs. Mason am bregethau effeithiol o eiddo MR. WILLIAMS Dau ddyn annuwiol yn teimlo cywilydd o'u buchedd wrth ei wrando yn pregethu—Teithiau mynych ein gwrthddrych yn y cyfnod hwn—Pregethu yn Nghwmeisian ganol—Marwolaeth bruddaidd y Parch. David Jones, o Dreffynon—MR. WILLIAMS yn Swyddi Meirionydd a Threfaldwyn yn areithio dros ryddhad y caethion yn y West Indies—Cymanfa