Tudalen:Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern.djvu/21

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD VII.

MR. WILLIAMS yn y Deheudir yn casglu at gapel newydd Llangollen—Adgofion y Parch. D. Jones, Gwynfe, am y daith hono——Cynghorion MR. WILLIAMS iddo—Mr. Jones yn methu a'i gael yn WILLIAMS O'R WERN fel oedd ganddo ef yn ei feddwl —Yn ei gael yn Nghrugybar i fyny â'r syniad oedd ganddo am dano cyn y daith hono—Dr. Thomas, Liverpool, yn ysgrifenu adgofion Mr. Jones— Parch. Richard Knill a John Angel James—Dr. William Rees—Cymanfa y Rhos—Ymddyddan ynddi ar y priodoldeb o gychwyn y "Dysgedydd Crefyddol" Penderfynu gwneuthur hyny mewn cyfarfod yn Ninbych—Arwyddo y Cytundeb— Dull a threfn ei gychwynwyr o'i ddwyn yn mlaen —Gwyr galluog wedi bod yn ei olygu o'i gychwyniad—Ei ddylanwad yn ddaionus ar y wlad—Cyfarfod Cenadol yn Nghaernarfon—Rhoddi Llangollen a Rhuabon i fyny—Pregethu pregeth Genadol yn Llundain—Oedfa hynod yn Aberdaron—Y gweinidogion a gyfodwyd i bregethu dan weinidogaeth MR. WILLIAMS—Ein dyled i Harwd

PENNOD VIII.

Cyfnod arbenig yn hanes MR. WILLIAMS—Cymanfa Llanerchymedd—Darluniad Gwalchmai o'n gwrthddrych yn pregethu ynddi ar y "wlad well" Helaethu Capel y Wern i'w faintioli presenol— Eglwys Rhuthyn mewn helbul—MR. WILLIAMS yn gwasanaethu mewn angladd yn Rhuthyn—Rhoddi Harwd i fyny—Llythyr at y Parch. C. Jones,