Tudalen:Cofiant Watcyn Wyn.djvu/13

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Fy mwriad cyntaf oedd rhoi casgliad o weithiau barddonol Watcyn Wyn yn y Cofiant, ond trwy ymgynghoriad â'r teulu a rhai cyfeillion, penderfynwyd rhoi ail gyfrol at hynny. Yn fy ymdriniaeth à Watcyn Wyn, fel Bardd, felly, dilynais ei awen yn ei Lawysgrifau cynnar anghyoeddedig, gan obeithio drwy hynny allu dangos ei thwf ymlaen drwy'r ail gyfrol. Hawdd y gwelir arwyddion o fynych wendid yn ei ymdrechion bore, ond o'i weled yn dysgu cerdded, haws fydd mawrhau ei ymdaith gref pan y delom ati.

Ceisiais gyfarfod â dymuniad llu o'i gyfeillion a'i edmygwyr drwy roi lle i chware difyr ei awen gydag amgylchiadau lleol a chartrefol, yn "Chware Awen." I'w ardalwyr yn neilltuol, heb hwn, ni fuasai'r Cofiant yn Gofiant Watcyn Wyn. Yn y "chware" hwn, disgwyliant ef yn ol atynt eilwaith, gyda'i ergyd parod a'i ddigrifwch glân, i dreulio aml noson o aeaf ar eu haelwydydd.

Awyddus oeddwn i'r Pregethwr gael ei gyfle i godi ei bulpud yn y Cofiant, ac ni bydd heb ei gynulleidfa. Meddai Wordsworth, "I sing—fit audience let me find, though few." Y "few" a siaradai am bregethau Watcyn Wyn, ond perthynent i'r "fit audience" er hynny. Daw praidd tebyg eto i'r borfa lâs sydd ar feysydd ei feddwl.

Wrth gofio lle Watcyn Wyn ym mywyd goreu Cymru, ni raid ymddiheuro am ddwyn allan Gofiant iddo. Bu iddo le mawr ac annwyl iawn ym mywyd ei wlad. Cyfnod pwysig yn ei hanes hi a fu deng mlynedd ar hugain olaf ei fywyd ef, yn gymdeithasol, yn wleidyddol ac yn addysgol, a cherddodd ef gyda'r lluman ar hyd y blynyddoedd. Yr oedd pyrth ei feddwl yn agored yn wastad i groesawu pob gwelliant. Ni chaeid hwynt na dydd na nos.

Heblaw meddwl yn dlws a dwys ei hun, cychwynnodd eraill i feddwl, ac i feddwl yn eang a naturiol. Anaml y cychwynnodd neb yng Nghymru fwy i feddwl, ac i feddwl mwy. Diddorol yw meddwl am y ddelw Gymreig a roddai ar ei fyfyrwyr, a hynny yn ddiymdrech. Gwnelai ei ysbryd ddisgyblion boddlon. A geir ysgol yng Nghymru â chynifer o gymeriadau llenyddol amlwg wedi cychwyn o honi? Dyna Gwili, Crwys, Mafonwy, a J. T. Job, gyda'r Goron a'r Gadair Genedlaethol yn eu meddiant—y Goron yn eiddo'r tri blaenaf,