Tudalen:Cofiant Watcyn Wyn.djvu/14

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a'r naill a'r llall yn eiddo " Job." Y mae Gwili yn ymdaith yn amlder ei rym, ac yn parhau i oleuo hyd ymhell yn nerth ysbrydiaeth ei hen athro.

Enillodd amryw o'i fyfyrwyr gadeiriau lleol a thaleithol, ac y mae amryw eraill o'i fyfyrwyr yn wŷr o safle yn y pulpud, yn Lloegr ac yng Nghymru; rhai o honynt yn wŷr graddedig ac amlwg, ac eraill yn bregethwyr y rhaid dweyd rhywbeth gwell nid drwg, wir," chwedl Herber, ar ol eu gwrando.

Arweiniodd gydag addysg yn ei sir, a cheisid ei farn a'i gyfarwyddyd lle ni cheid ei bresenoldeb.

Anaml y carodd Cymru neb yn anwylach nag y carodd hi ef, ac anaml y gwasanaethodd neb Gymru yn ffyddlonach nag y gwasanaethodd efe hi.

PENAR.

Penllwyn,

Hydref 21, 1915.