Tudalen:Cofiant Watcyn Wyn.djvu/15

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

COFIANT WATCYN WYN

EI FYD A'I FRO.

Y MYNYDD DU" a "Watcyn Wyn"! Mae rhyw chware bach, cyfreithlon, yn dod i mewn i bopeth perthynol i fywyd ein hen gyfaill. Ond nis gellir ysgrifennu hanes bywyd llenyddol a chymdeithasol Cymru, yn ystod yr hanner canrif diweddaf, heb gofio'r ddau hyn--“ Y Mynydd Du" a Watcyn Wyn"! Paham du, pwy a ŵyr? Ond daeth y llenor a'r bardd yn wyn o dan ei ddylanwad. Mynydd Du Shir Ga'r," wrth reswm, sydd yn ein meddwl. Ar fwy nag un golwg, nid oes dim yn anghyffredin ynddo. Nid yw nac uchel nac ysgythrog; hen fynydd gweddus, diddig, boddlon, ydyw. Y mae'r stormydd a dreiglant drosto yn anniddig iawn yn fynych, a chaiff y gwynt le i wneud helynt pan ddaw i'w gefn agored yn ei rwysg. Mor gyffredin yw'r hen fynydd, fel os troir i eiriadur Cymraeg parthyddol, a tharo ar" Mynydd Du," ni'n cawn ein hunain ar rês o fynyddoedd Sir arall yn y de, ar unwaith, a dim gair am "Fynydd Du Shir Ga'r." Ond rhaid siarad yn "ddistaw bach" ar ei hen gymeriad cyhoeddus, rhag i'w blant ffyddlon, lu glewion, fel ydynt, glywed; a brysio i ddywedyd i'r hen fynydd weled llawer yn ei hanes. Gwelodd wead "Mabinogi " clasurol ein gwlad gallai ddywedyd cystal â neb am helfa'r Twrch Trwyth": pwy wyddai'n well hanes cyfrin "Meddygon Myddfai," a'r ystori am Riwallon Feddyg, oblegid ar un o'i ystlysau boddlon, cudd ef, y mae "Llynnoedd y Fan," fawr a bach. Daeth George Borrow dros y "Mynydd Du" ar ei daith o Langadog, a digon du fu hi arno, canys yr oedd y nos wedi cau am dano .cyn cyrraedd i'r "Gwter Fawr," yr hen enw ar Frynaman. "Cododd Brynaman o'r Gwter Fawr," meddai Watcyn Wyn. Nid oes berygl i ymholydd hanes y mynydd hwn gael ei adael heb wybod fod "Pryse Cwmllynfell" wedi bvw'n hir yn ei gysgod, wedi bugeilio "praidd yr