Tudalen:Cofiant Watcyn Wyn.djvu/16

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Iôn" ar hyd ei lethrau am lawer blwyddyn, lle y gwelodd yn ddiau ambell "ddafad ungorn gâs," fel y gwelodd Gwilym Hiraethog yntau; wedi gweddïo nes creu arswyd ar werin, a phregethu nes peri syndod i filoedd y Gymanfa. Meddai'r Bardd am dano fel pregethwr:—

Pregethai natur yn ei holl agweddion;
Pregethai dywydd teg a hyfryd hinon;
Y gwynt, y dail, yr adar roddai i ganu,
A bore o Wanwyn yn ei wedd yn gwenu;
A chrych y nant, a bwrlwm gloyw'r ffynnon
Osodai i farddoni yng nghlustiau dynion;
Amrywiol dannau telyn creadigaeth
Oedd wrth ei law, a bysedd ei farddoniaeth:
Canodd farddoniaeth bur yn llawn o bopeth,
Canodd y byd i gyd ar fesur pregeth.


Cofio fod "Pryse Cwmllynfell" yn efrydydd mawr o seryddiaeth a llysieuaeth sydd yn dod a'r goleu i'r llinellau hyn. Ac am ei weddi, meddai'r Bardd drachefn:—

Ond llais ei weddi byth fydd yn ein clustiau,
A lles ei weddi byth fydd ar galonnau;
*****
Yn nerth ei weddi'r oedd ei nerth yn byw,
Yn llais ei weddi clywid llais ei Dduw;
Ni chlywsom ddim yn gallu tynnu'r nef
I'r byd erioed mor hawdd a'i weddi ef,—
Neu godi'r byd i'r nef, ni wyddom pun,—
'Roedd ganddo ef-ryw ffordd i'w gwneud yn un
Yn nerth ei Dduw, ynglyn â'i nerth ei hun.


Rhaid i hanesydd diweddarach gael son am hyawdledd" Davies Cwmaman," gweinidog yr "hen Fethel," hen gysegr yr Anni— bynwyr, yntau ar lethr yr hen fynydd; a'i "Fyfyrdodau Byrion" wedi eu cyhoeddi yn 1854, pan oedd Watcyn Wyn yn ddeg oed: ac ni all nad oedd aml un wedi ei gyrraedd ef mewn pregeth hyd yr hen gwm. A hawdd y ceid ystori am lawer hen gymeriad, nwyddau na fu yr hen "Gwter Fawr a'i chyffiniau erioed yn brin o honynt; a deuai'r cwbl hyn—bethau mawrion—i mewn i fywyd ieuanc, byw, derbyngar, y bachgen yr oedd Cymru i'w alw'n "Watcyn Wyn." Prin y