Tudalen:Cofiant Watcyn Wyn.djvu/17

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

cafodd neb fwy o gyfrinach y "Mynydd Du" nag ef. A phe nas gallasai gael llawer ynddo, gallasai gael llawer oddi arno, dim ond dringo i goryn "Pen Rhiw Wen "—dinas wen yr odynau calch," chwedl yntau. Oddiar dŵr y ddinas" honno ceid golygfa nad oes ei rhagorach yng Nghymru. Edrych i'r de fyddai ddigon i gael golwg ar hen ardal "Llawdden, fwyell aur, a Dafydd William, Llandeilo Fach, a ganodd yr hen emyn:—

I gyfeiriad y Gogledd yr oedd cartrefi Williams Pantycelyn, Dafydd Jones o Gaio, John Thomas o'r Col, Myddfai—emynwyr enwog ill tri—Ficer Llanymddyfri, a'r Esgob Owen o Lasallt; ac ychydig yn fwy i'r Gorllewin, gwelai hen ardaloedd Lewis Glyn Cothi, a Morgan Rhys, emynydd gwych arall— heb son am Gastell Dinefwr, Llandeilo, y Gelli Aur, gyda'i stori am Jeremy Taylor yn ymguddio, ac eilwaith gartref mawr, goleu, Syr Rhys ap Thomas yn uwch i fyny ar lannau Tywi. Wedi son yn ei ddull difyr ei hun am yr hen lecyn amlwg hwn fel "dinas yr odynau calch," meddai ef mewn man, "Paham na byddai rhyw un wedi codi hotel ar Ben y Rhiw Wen? Byddai yn sicr o'i gwneud hi'n galch yno."

Soniodd yn ei Atgofion am fyd llai na hwn,—" Yr olwg gyntaf ar fyd," meddai, "byd digon bach ran hynny, ond hynod o newydd a phrydferth, byd â'i nefoedd yn cyrraedd o Ben y Garreg Lwyd i Fynydd y Betws, ac o'r Garreg Fraith i Benlle'rfedwen." Meddai mor syml:—

Yma'n blentyn rhwng mynyddoedd,
Lled y cwm oedd lled y nefoedd,
Y Garreg Fraith a Phenlle'rfedwen,
O bob tu gynhaliai'r wybren!


"Dyma'r trumau pellaf a welwn, ac nid oeddwn yn meddwl fod trumau pellach yn bod, am fy mod yn gweled y pedwar mynydd hyn mor bell a'r terfyn eithaf, a chuwch a'r nefoedd! Byd bach oedd y byd, ond wedi ei greu yn brydferth a diddorol dros ben, yn llawn afonydd, neu nentydd, a chaeau, a pherthi, ac adar, ac ambell heol, ac ambell dý. Nefoedd fach oedd y nefoedd, dim ond just digon o faint i doi'r byd bach, ond os mai nefoedd fach oedd hi, yr oedd yn deg, ac yn lâs, ac yn