pob dyn da, nid yn unig yn gofalu yn ddyfal a thyner am dano, ond hefyd yn gwneuthur cofnodiad manwl o holl helyntion ei oes, er mwyn iddo gael y boddhad hyfryd o'u darllen yn ei sefyllfa berffaith tudraw i'r bedd; os gwir y chwedl, gwyn fyd, meddwn, na byddai i angel gwarcheidiol Eben Fardd roddi benthyg ei gyfrol anmhrisiadwy i ni tra y byddom yn ysgrifenu y rhan hon o'r traethawd. Ond nid oes dim i'w wneyd ond boddloni ar yr ychydig gofnodion gwasgaredig sydd genym wedi eu hysgrifenu gan hwn a'r llall, ar ol ei farwolaeth.
Enw priodol Eben oedd Ebenezer Thomas. Ganwyd ef yn mis Awst, 1802, yn mhlwyf Llanarmon, o fewn cantref Eifionydd, sir Gaernarfon. Y mae hen gwmwd Eifionydd wedi bod yn enwog nodedig am ei lenorion, ac yn enwedig am ei feirdd. Dyna lle ganwyd ac y magwyd y beirdd anfarwol Gutyn Peris, Pedr Fardd, Sion Wyn o Eifion, Robert ab Gwilym Ddu, a Dewi Wyn, yn nghyda lliaws ereill a allem enwi. Cafodd Eben y fraint o gael ei osod gan Ragluniaeth yn mhlith y dorf ddysglaer hon; a chawsant hwythau y fraint nid bechan o gael derbyn Eben i'w cymundeb.
Rhieni ein bardd oeddynt Thomas William, gwe- hydd, a Catherine Price,[1] ei briod. Personau isel oeddynt o ran eu hamgylchiadau bydol, ond yr oeddynt eill dau yn uchel a dysglaer o ran eu cymeriad moesol, ac yn aelodau dichlynaidd a pharchus gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Preswylient mewn bwthyn gwladaidd, o'r enw Tan-lan, ar dir y Gelli-gron, yn mhlwyf Llanarmon, ac o fewn tua milldir i bentref Llangybi. Yn y tŷ bach a diaddurn hwn y ganwyd
ac y magwyd cadeirfardd Clynnog. Dyma lle y dech-
- ↑ Catherine Pierce medd eraill-pwy all dori y ddadl, tybed?