Tudalen:Cofiant a gweithiau Risiart Ddu o Wynedd.djvu/102

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

90 COPIANT

hyn o bryd. Yn mblith pregethwyr ein gwlad, dyna yr hyawdl Elias o Fôn, gwehydd tlawd oedd ef ar y cyntaf. Yn mhlith eio cerddorion, dyna y gwehydd Handelaidd o LanidloeS, sef y diweddar Richard Mills. Gwehydd hefyd oedd ei nai, y Parch. J. Mills (Ieuan Glan Alarch), yr hwn sydd yn fyw yn awr, ac yn anrhydedd i'w wlad fel lienor, ysgolhaig, a cher- ddor. Yn mhlith ein geirlyfrwyr a'n hynafiaethwyr, dyna wehydd galluog Llanrhuddlad, sef yr enwog Weirydd ap Rhys — gŵr ag y raae ei wasanaeth llen- yddol o werth anmhrisiadwy i'n cenedl. Gallem hefyd nodi lluaws o esiamplau dysglaer yn mhlith ein beirdd, megys Oaledfryn ac ereill, ond digon ar hyn o bryd y w Eben Fardd. Bu yntau yn wehydd unwaith, ac fe fyddai yn gwybod pa sut i wau mewn dwy ffordd yr un pryd. Tra yr oedd ei ddwylaw tyner yn gwau yr " ystwff cartref '" oedd o'i íìaen, yr oedd ei feddwl bywiog yn arfer gwau sidanwe canaid y dych- ymyg yr un pryd, a dyna lie y byddai y bachgen Ebenezer

" Yn dwys barhau i ganu a gwau, xra daliai oriau'r dydil"

Nid oedd ond saith oed pan ddechreuodd geisio barddoni. Cynyrchwyd, neu yn hytrach cynhyrfwyd y duedd lion ynddo wrth ddarllen gwaith tanllyd a hedegog y gŵr a fu wedi hyny yn athraw barddonol iddo, sef y serapliaidd Ddewi Wyn o Eifion. Ond bu raid iddo weithio ei ffordd yn mlaen oreu gallai, heb neb i'w gyfarwyddo, hyd nes oedd yn bedair-ar-ddeg oed. Yr oedd, erbyn hyny, wedi cynyddu gymaint yn y '* gclfyddyd fawr " ncs tynu sylw Dewi Wyn, a Sion Wyn o Eiiion, a chafodd y boddhad rhyfedd o gael ei dderbyn yn ddisgybl gwylaidd ac yrnofyngar gan yr athrawon barddonol hyny.