Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant a gweithiau Risiart Ddu o Wynedd.djvu/111

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

eraill, a gormod o honynt yn dra sarrug eu naws. Fe allai bod rhyw achos am hyny i'r dyn anianol: ond ymddyrchafed Bardd cyfaddefedig uwch dylion llymion y llwch. Bydded foneddigaidd yn ei ymarweddiad, llariaidd mewn hunan-amddiffyniad, a geill yn ddiogel ymddiried i'r byd am iawn farn. Wrth y byd yr wyf yn meddwl y dynion deallgar ynddo; ac os ceir y rhai hyny o'n plaid ni waeth am eraill.

Cyhoeddwyd yn ddiweddar waith y llithrig-fardd o Geiriog, Huw Morus, mewn dau lyfr deuddeg-plyg, pris 12s. Myfi a gymerodd y boen a'r drapherth o'u casglu ynghyd, am hynny dymunwn i'r Argraphydd, Painter, o Wrexham, fod yn ddigolled. Os gellwch gym- eradwyo y gwaith i hoffwyr barddoniaeth Gymreig, gwaith y prydydd goreu yn ei oes, i ryw rai o'ch cydnabyddiaeth, byddaf ddiolchgar i chwi.

"Cofiwch fi yn garedig at eich cymmydogion, R. ab G. Ddu a Chybi o Eifion, a choeliwch fy mod i chwi ac i bob Cymro o'ch bath, "Eich ufudd wasanaethydd ac ewyllysiwr da,

'WALTER DAVIES.

"Manafon, near Welshpool, Hydref 13eg, 1824.

"Dylai pob bardd fedru cadw cyfrinach—a pham na fedr prif-fardd Eifion yn anad neb."

[2]
"CAERWEN, Hydref 25, 1824.

"ANRHYDEDDUS GYMRO,—Daeth eich llen i law yn brydlawn, ac i'ch gwneyd yn ddiofal na chaiff neb ei gweled mewn amser dyfodol dyna hi yn ol i chwi. Dangosais hi yn unig i Ebenezer Thomas, yn ol eich gorchymyn. E allai fod y chwedlau gweinion wedi peri i chwi led dybio fod rhyw gydweithrediad rhyngwyf a'r Bachgen, ond gwybyddwch mai dyfais gelwyddog oedd y cwbl. Mae'n wir i'r Bachgen ymddiddan â mi o berthynas i'r gwaith; a dangos peth o hono i mi cyn ei anfon, ond ni welais erioed mo'r gwaith i gyd. Addawsai ddyfod ag ef i mi i'w olygu cyn ei yru ymaith, ond brys i achub yr amser a wnaeth iddo ffrystio ei anfon heb i mi gael golwg arno. Y ffordd fyraf am hyn yw dyweyd, nad oes yn yr Awdl gymaint ag un llinell o'm gwaith i ac yr wyf bron yn sicr o waith neb arall chwaith.

"Dichon eich bod chwi ag y bydd eraill yn gweled rhyw bethau yn yr Awdl yn tebygu i'm gwaith i, yr atteb i hyn ydyw fod awen y Bachgen o'r un rywiogaeth a'r eiddof finan, o herwydd wrth ddarllen fy marddoniaeth i yr ymhoffodd yn y gelfyddyd, ac myfi yn ganlynol a fu ei Athraw, a'r ffordd a gymerais i'w gyfarwyddo oedd ei gynghori