Tudalen:Cofiant a gweithiau Risiart Ddu o Wynedd.djvu/112

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

100 COFIANT

i ddarllen Gorchestion Beirdd Cymru a phethau eraill, rhag iddo ymlithio ac yrnlynu yn ormodol wrth fy null i, yr hwn os yw yn ar- dderchog rnewn rhyw beth nid yw yn dda ym mhob peth, &c. Dydd Sadwrn y bu'r Bachgen yma, ac ymddadleuais ag ef yn y inodd mwyaf cyfeillgar, addawodd wneyd ei egni i ddiwygio, ond ni ddywedodd pa un a wnai ai dyfod yma i'w hadysgrifio a'i peidio. Ni ddarfu i min- au gymell gwneud, rhag ofn iddo fy nhybied yn rhy swyddgar e allai fod y chwedlau celwyddog fy mod i yn ei gynorthwyo wedi briwio peth ar ei feddwl, gan nad oedd un math o gyfeillgarwch rhyngoch chwi a'r Bardd gymaint a'i adnabod yr oedd yn annichon i chwi fod yn bleidgar iddo, ao felly hyderaf fod eich dedfryd yn gywir, ac nad rhaid i chwi na phryder na chywilydd oblegid eich Barn. Yr wyf yn cofio i mi ddywedyd wrth y Bachgen pan welais i y gwaith ei fod yn dra thebyg o lwyddo, ac bron yn sicr os na fyddai rhyw hen walch cryf iawn wedi canu, canys meddwn, yr wyf yn sicr fod hon yn llawer cryfach Awdl nag eiddo Gwilym Cawrdaf yr hon a enillodd yn Aber- honddu.

" Darfu i'r Bachgen wedi hyny wellhau peth ar y gwaith ond ni welais byth mo hono. Dywedodd yr ad-anfonai yr Awdl i chwi cyn bo hir, perais i iddo beidio a ffwdanu, er mwyn iddo gyflawni eich dymuniad yn dda, ac os cais genyf fit ei golygu byddaf ddigon ewyllys- gar i hyny a'r cwbl yn gyfrinach. Buaswn wedi ysgrifenu atoch er's blynyddau, oni b'ai ofn ymddangos yn rhy feiddgar a swyddgar, i'ch annog i gyhoeddi eich Barddoniaeth sef pigion eich gwaith/prydyddol yn Llyfryn, er mwyn eich anrhydedd eich hun, lleshad a diddanwch cenedl y Cymry, heb olygu enill na cholled oddi wrth yr Argraphiad. Canys beth yw ychydig Bunoedd i wr yn eich sefyllfa chwi?— Am waith Huw Morus nid wyf yn meddwl y medrwn werthu cymaint ag un llyfryn canys haws o lawer a fyddai gwerthu cadachau esgidiau yn y wlad yma nag un math o Farddoniaeth. Methu genyf werthu cym. aint ag un o " Fel Awen " Pedr Fardd

" Pe cyfrifaswn chwi yc elyn o'm heiddof, yr wyf yn meddwl fod ynof gymaint o waelod ac anrhydedd, ac y cadwasom eich cyfrinach, ond gan fy mod yn eich ystyried yn ewyllysiwr da, mae fy rhwymau cyfrinachol yn ddeublyg. Hefyd yr wyf yn dueddol i feddwl mai barn gyfiawn yw eich unig ymgeisnod fel Pen beirniad yn yr Eisteddfodau, ac yr wyf yn cydymdeimlo a chwi, oherwydd pwysigrwydd eich gorch- wyl, a'r anhawsder i ddiengyd oddi wrth bob math o aunymunoldeb wrth weithredu, " Wyf, yr eiddoch yn iselfryd,

" Dewi Wyn o Eifion.