Tudalen:Cofiant a gweithiau Risiart Ddu o Wynedd.djvu/113

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

RISIART DDU. 101

" Diolch yn y modd mwyfaf teimladwy iehwi am fy ngwahawdd i alw yn eich Ty ; raae ynof duedd gref ryfeddol i rodio oddi cartref ;— mae hyny yn dygymod yn llawer gwell a'm heichyd, na syfrdanu fy ymen- ydd yn ceisio prydyddu. Ac os oes hoedl a llwyddiant, dichon y caf ryw adeg i rodio y wlad yna, ac os dawaf, bydd dda genyf gael cyfeillach a llety genych chwi."

Tra yn son am yr Awdl ar "Ddinystr Jerusalem," nis gallwn ymattal rhag crybwyll faith ddyddorol mewn perthynas iddi. Pan oedd Eben yn darlithio ar "Addysg" yn Liverpool nynyddau yn ol, dywedai Hiraethog, yn ei araeth agoriadol fel llywydd y cy- farfod, mai Awdl Eben Pardd ar " Ddinystr Jerusal- em oedd wedi bod yn foddion i ysgogi ei feddwl gyn- taf erioed at geisio barddoni. Oyn iddo ddarlien yr Awdl dan sylw, nid oedd, meddai, yn gwybod y gwa- haniaeth rhwng buwch ac englyn ! Oüd effeithiodd barddoniaeth danllyd Eben gymaint ar ei feddwl, nes y penderfynodd geisio cyfansoddi rhywbeth tebj'g i waith bardd ieuanc ag oedd yn digwydd bod oddeutu yr un oed ag yntau. Digwyddodd yn fuan wedi hyny weled rhestr testynau Eisteddfod Aberhonddu, a dis- gynodd ei lygad ar y wobr a gynygid am y Oywydd goreu ar " Frwydr Travalgar." Gwyr y darllenydd pa beth fu y canlyniad. Bu Awdl Eben yn foddion nid yn unig i achlysuro cyfansoddiad un o'r Oywydd- au goreu yn ein hiaith, ond hefyd yn foddion i roddi cychwyniad dysglaer i yrfa farddonol y prif-fardd Hiraethog. Nid rhyfedd i'r fath gyfeillgarwch gwres- og a didwyll gael ei ffurflo rhwng y beirdd enwog hyn, cyn gynted ag y daethant i feddu adnabyddiaeth bersonol o'u gilydd.

O Lanarmon aeth Eben i Glynog Pawr, i gadw ysgol yn " Eglwys y Bedd," hen adeilad petryal yn ymyl yr Eglwys, ac fe'i gelwir yn gyffredin yn "Gapel Beuno." Defnyddid y " Oapel " y pryd hyny i gadw ysgolion dyddiol a Sabbathol. Lletyai, fel y sylwasom