Milton; a chafwyd ambell fardd o'r trydydd dosbarth yn Nghymru allai ganu Englyn neu "bwt o gân" yn llawn cystal os nad rai graddau yn well na phrif-fardd Clynnog.
Bu Eben yn fuddugol ar ddau o destynau Eisteddfod y Gordofigion yn Llynlleifiad, yr hon a gynhaliwyd yn mis Mehefin, 1840, dan lywyddiaeth yr Anrhydeddus E. M. Lloyd Mostyn. Beirniaid y farddoniaeth oeddynt Ieuan Glan Geirionydd, ac Ellis Owen, Ysw., Cefn y Meusydd, Eifionydd. Barnwyd Eben yn fuddugol ar y Toddeidiau ar "Esgyniad Elias i'r Nef," ac y mae y cyfansoddiad yn anrhydedd i'w enw. Efe hefyd a enillodd ar destyn y Gadair, sef "Awdl ar Gystuddiau, Amynedd, ac Adferiad Job." Dyma yr ail waith iddo esgyn i'r Gadair Farddol. Bychan a feddyliai y bardd, pa fodd bynag, ei fod, wrth gyfansoddi yr Awdl odidog hon, yn ysgrifenu ei gofiant effeithiol ei hun yr un pryd. Cyfansoddodd Milton yn effeithiol odiaeth ar ddallineb Samson yn ei "Samson Agonistes," ac aeth wedi hyn yn ddall ei hunan. Cyfansoddodd Handel hefyd ddernyn cerddorol godidog ar yr un pwnc, a therfynodd yntau ei fywyd yn ddall. Bu yn debyg i hyny gydag Eben. Canodd yn ardderchog ar gystuddiau arswydus Job, ac wedi hyny portreadodd y cystuddiau hyny yn fwy effeithiol fyth yn ei fywyd trallodus ei hun. Yr oedd ganddo ef a'i briod bedwar o blant, sef tair merch a mab; a phan yr oedd gyda'i deulu hoff o'i amgylch, yn ymddangos fel un o'r dynion dedwyddaf a fu erioed yn sangu y ddaear; tra yr oedd llwyddiant tymhorol yn coroni ei babell, a bendith y Nef yn tywynu ar ei enaid, dyna ystorm erchyll yn cyfodi yn ddisymwth, ac yn ysgubo ymaith ddwy o'i ferched hoff, yn nghyda'i anwyl briod; a buan iawn drachefn y cafodd ei ymddifadu o'i fab athrylithgar a rhinweddol,