Tudalen:Cofiant a gweithiau Risiart Ddu o Wynedd.djvu/120

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

108 COPIANT

odd y Cyfarfodydd Llenyddol, sydd erbyn heddyw yn bethau mor gyffredin, nid yn unig yn ein gwlad ni, ond hefyd yn rahob gwlad arall lie y ceir Oymry yn trigianu. I Eben, gan hyny, y perthyn yr anrhydedd o fod yn sylfaenydd i un o'r sefydliadau mwyaf buddiol sydd yn perthyn i ni fel cenedl. Efe, mewn gair, yw tad ein holl Gyfarfodydd Llenyddol. Bu yn dra llafurus gyda'r cyfarfodydd hyn hyd ei fedd, a byddai yn arfer beirniadu eu cynyrchion mor fanwl ac mor ofalus a phe buasent yn gynyrchion Eisteddfod Genedlaethol.

Mae yn anhawdd credu na bu'n beirniadu,mewn rhy w gylch neu gilydd,cynEisteddfodAberffra w,er mai at ei feirniadaeth yn yr Eisteddfod bono y cyfeiria efe yn y Critic, fel yr unig feirniadaeth a wnaethai cyn 1853. Efallai y dylid mynegu, yn y fan hon, ddarfod i gryn- odeb o'i fy wyd ef, ac amry w lenorion Oymreig eraill, ymddangos yn y Dictionary and Directory of Living Authors and Artists, yn y Critic am y flwyddyn a nodwyd (1853).

Yn mhen deng ralynedd ar ol Eisteddfod Llynlleif- iad, canfyddwn ein harwr yn dyfod allan, fel bardd, mor nerthol, ac yn wir yn fwy nerthol, i'n tyb ni, nag erioed. Cynhaliwyd Eisteddfod Frenhinol yn Rhudd- lan yn 1850, dan lywyddiaeth Arglwydd Mostyn. Testyn y Gadair ydoedd " Yr Adgyfodiad " — ar un- rhyw fesur oddieithr yr un diodl. Y beirniaid oedd- ynt yr Archddiacon Williams, Tegid, a Gwrgant, y rhai a ddyfarnasant y llawryf i Ieuan Glan Geirion- ydd. Ymddangosodd Pryddest odidog Eben yn y " Traethodydd " am 1851, a chafodd dderbyniad croesawus gan y cyhoedd, a barn ffafriol ac uchel gan y gwahanol adolygwyr. Oddeutu 1844 — 5 yr oedd ein bardd wedi troi ei feddwl i raddau helaeth