Tudalen:Cofiant a gweithiau Risiart Ddu o Wynedd.djvu/123

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

RISIART DDU. Ill

Efe ysgrifenodd ran fawr o gofiant Dewi Wyn, sydd yn nechreu " Blodau Arfon." Oawn ysgrifau Seisnig o'i eiddo yn y "Memoir of the Rev.John Elias," gan y Parch. E. Morgan, M.A., Syston ; ac yn un o honynt rhydd ddesgrifiad tra hyawdl o ddull Elias yn preg- ethu. Oawn sylwadau o'r un natur ganddo hefyd yn Mywgraffiad Cymraeg Elias, gan y Parch. J. Roberts, Liverpool. Yn 1862 cyhoeddodd Mr. Gee lyfr bychan o'i eiddo, dan yr enw Hymnau gan Eben Fardd. Oynwysai y llyfr hwn ddwy emyn hefyd o waith mab y prif-fardd, sef James Ebenezer Thomas.

Yn 1863, ychydig wedi marwolaeth y bardd, ym- ddangosodd " Oyff Beuno, sef Awdl ar Adgy weiriad Eglwys Olynnog Fawr." Yr Awdl hon, mae'n debyg, yw yr olaf o'i gynyrchion barddonol. Heblaw yr Awdl, cynwysa y llyfr " Nodiadau Hynafol, Achydd- iaeth, Daiaregaeth y Plwyf, Rhestr o'r Beirdd a'r Llenorion," &c. Oynwysa hefyd "Nodion a Hyn- odion y Bardd," gan loan ab Hu Feddyg.

Yr ydym hyd yma wedi son am Eben yn benaf fel bardd a lienor, ond cyn terfynu y rhan hon o'r traethawd rhaid i ni ddweyd rhywbeth am dano fel dyn a Ohristion, gan ymdrechu tynu sylw neillduol at ei brif ragoriaeth — rhagoriaeth ag oedd yn gwas- gar gogoniant nefol dros bob camp arall a berthynai iddo — sef ei dduwioldeb diamheuol a phur.

Fel dyn, yr oedd yn dra nodedig am ei ostyngeidd- rwydd a'i addfwynder, ac yr oedd yn gyfaill didwyll a ffyddlawn. Nid oedd yn rhy barod i ddechreu cyfeillach, a hyny o herwydd fod rhyw wylder neill- duol yn perthyn iddo, a bu y gwylder hwnw yn fagl iddo ar lawer achlysur. Ond unwaith yr elem dros wrthglawdd y gwyleidd-dra hwn, ac y ffurfiem gyfeillach bersonol â'r prif-fardd, teimlem yn union- gyrchol ein bod yn mhresenoldeb cyfaill o'r iawn ry w