Tudalen:Cofiant a gweithiau Risiart Ddu o Wynedd.djvu/126

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

114 COFIANT

nes y byddai teuluoedd parchus yn anfon eu meibion yno o bellder mawr. Daeth yr ysgol hon mor bwysig, o'r diwedd, nes y penderfynodd y Trefnyddion Calfin- aidd roddi ugain punt yn y flwyddyn i'r athraw, fel y gallent hwythau anfon pregethwyr ieuainc yno i dderbyn addysg ragbarotoawl cyn myned i Athrofa y Bala. Mae y ffeithiau hyn yn myned yn mhell i brofì fod Mr. Thomas yn ysgolfeistr galluog, a'i fod, fel yr addefir yn gyffredinol, yn cyfranu " addysg dda u mewn gwybodaeth, moesau, a duwioldeb.

Yr oedd yn dra gofalus rhag rhoddi achos tram- gwydd i neb, a rhag dolurio teimladau mewn un modd. Yr oedd ei olygiadau am ei gyd-ddynion mor ryddfrydig, fel mai anhawdd iawn oedd ganddo ddy- wedyd na meddwl yn galed am undyn. Gallai oddef mewn cariad, pan na byddai yn cymeradwyo. Diam- heu fod hyn wedi bod yn achlysur i rai ei gamddeall. Tybient ei fod yn cymeradwyo, pan na byddai ond yn goddef yn unig. Dyma yr achos, mae'n debyg, fod cynifer o wahanol farnau yn cael eu coleddu a'u dat- gan yn nghylch ei olygiadau crefyddol. Oeisiodd un ysgrifenwr yn y " Brython," brofl mai Eglwyswr ydoedd Eben ; ond dadleua loan ap Hu Feddyg, yn "Nghyff Beuno," fod "ei argyhoeddiad ýn cydweddu yn fwy âg egwyddorion y Brodyr na neb arall mewn gwirionedd ; " a dyfyna un o lythyrau y prif-fardd i brofi y pwnc. Nid ydym yn deall fod undyn wedi meiddio dyfod allan i brofi mai Annibynwr ydoedd, er y buasai gan hwnw gystal rheswm o blaid ei osodiad, feddyliem ni, a'r ddau frawd a nodwyd ; canys dyma fel yr ysgrifenai Eben at gyfaill mewn llythyr dydd- iedig Mawrth 23, 1840,— dealler mai Eben sy'n gyf- rifol am y geiriau Italaidd : —

" 1 have long prescribed a rule for myself, not to adhere strictly to any Body of Divinity, confession of the faith, or creeds, or articles, pretending to arrange the Holy Scriptures into a structure of futile