Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant a gweithiau Risiart Ddu o Wynedd.djvu/130

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

newydd gael ei adeiladu, etholwyd yntau yn ddiacon; a chyflawnodd y swydd hono yn y modd mwyaf ffyddlawn hyd ei fedd. Nid oedd dim yn ormod ganddo i'w gyflawni gydag achos mawr y Gwaredwr. Ei dŷ ef oedd y tŷ capel; ac yno y derbyniai gweision yr

Arglwydd yr ymgeledd mwyaf tirion a chroesawgar. Yr oedd ganddo allu mawr i ddeall yr Ysgrythyrau, ac i gyfranu ei wybodaeth grefyddol i eraill. Ni wnai fawr ddefnydd o esboniadau; a chredai mai synwyr cyffredin, a phrofiad personol o wirioneddau y Beibl, oedd y moddion effeithiolaf i gael gafael ar ei drysorau cuddiedig. Ystyrid fod yn Eben gryn lawer o'r "crefyddwr hen ffasiwn."

Yr oedd ganddo reolaeth ardderchog ar ei deulu ei hun; ac yr oedd yn ofalus iawn am ddysgu ei blant i iawn ymddwyn, ac i fod yn gynil a darbodus, ac uwchlaw'r cyfan, yr oedd yn ofalus neillduol am eu meithrin yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd. Ac ni bu ei lafur yn ofer. Gallwn dystio, gyda'r pwyslais cryfaf, mai teulu crefyddol, yn mhriodol ystyr y gair, oedd teulu Eben Fardd. Yr oedd hefyd yn llafurus a defnyddiol iawn gyda'r Ysgol Sabbathol; ac yn barod bob amser i gefnogi unrhyw symudiad daionus mewn ystyr gymdeithasol neu grefyddol.

Nis gwyddom pa bryd y gorphenem y rhan hon o'r traethawd, pe yr elem yn mlaen i gofnodi yr holl bethau a wyddom am y prif-fardd; ni wnawn, gan hyny, ond cofnodi hanes ei ddyddiau diweddaf, ac yr ydym yn credu nas gallwn wneud yn well, gyda golwg ar hyn, na dyfynu geiriau un o gyfeillion mynwesol Eben Fardd, sef y Parch. R. Hughes, Uwchlaw'r Ffynon. Dyma fel y dywed yn " Y Drysorfa," am Ebrill, 1863:—