"Nid oedd terfyn ar ei ofal gyda'r capel. Nid yn unig yr oedd yn gofalu am ei gyfrifon, yr hyn a gedwid ganddo yn y modd mwyaf rheolaidd a destlus, ond gofalai am bob peth a berthynai iddo. Nid oedd dim yn ormod ganddo i'w wneud a dim yn rhy fychan. Yr ydym yn cofio iddo unwaith fyned adref prydnawn Llun o Gyfarfod Misol, rhag ofn na byddai yr un o'r blaenoriaid eraill yno i ofalu am y Cyfarfod Gweddi, ac i'r achos drwy hyny,' fel y dywedai, gael ei iselu yn ngolwg y gymydogaeth.' Efe a fyddai yn myned â'r allwedd i agor drws y capel, ac nid gormod na rhy fychan ganddo oedd ysgubo y llawr a goleuo y canwyllau, eithr yr oedd gwneud hyn yn bleser calon iddo, fel y cawn adrodd yn ei eiriau ef ei hun eto.
"Sabbath, y 23ain o fis Tachwedd diweddaf, oedd y tro cyntaf iddo fethu myned i'r capel gan ei waeledd; ac yr oedd yn teimlo yn bur anfoddlawn i aros adref, am fod swper yr Arglwydd i gael ei weinyddu y noson hono. Yr oedd yr olwg adfeiliedig a gaem arno yn peri i ni feddwl fod amser ei ymddatodiad yn agos. Pan y cyfeiriem yn gynil at ei wasanaeth i grefydd, dywedai gyda golwg difrifol, nad oedd, wrth adolygu ei oes grefyddol y dyddiau diweddaf, yn meddwl cymaint o ddim a wnaeth â'i fod pau yn fachgen wedi cael y fraint o fyned â cheffylau y pregethwyr o Ysgoldy Pencaenewydd i Pentyrch isaf (ei dad oedd yn gofalu am y ceffylau yno). Meddyliai fod hyn yn rhyw faint o wasanaeth i weision Iesu Grist; ac ychwanegai, Yr wyf yn falch fy mod wedi cael y fraint o ysgubo y llawr a goleu canwyllau yn nhy fy Nuw. Byddwn yn amheu fy nghymhwysder gyda pethau eraill a ystyrir yn gyffredin yn fwy pwysig, ond yr oeddwn yn sicr y gallwn i wneud y pethau hyn yn ddiragrith, a chyda phleser.' Onid ydyw hyn yn engraifft nodedig o ras Duw yn 'trwsio' y dyn oddi mewn â gostyngeiddrwydd?' Ni buasai yr uchel ei ffroen byth yn meddwl am i'r bardd mawr fyned i'r fath le â llwch llawr y cysegr i gael rhai o'r pethau dysgleiriaf yn ei goron Gristionogol. Pethau rhy isel a distadl gan y bydol—ddyn i'w codi sydd yn cyfoethogi y Cristion am byth. Mae yn 'ymgyfoethogi mewn gweithredoedd da.'
"Ionawr 6ed, yr oedd yn llesg a nychlyd yr olwg arno. Dywedai, Ni bum erioed mor falch o'r hen Fethodistiaid ag yr ydwyf y dyddiau hyn. Mae llawer o roi arnynt gan eraill; a bum yn cwyno oherwydd eu diffygion fy hun lawer gwaith, heb feddwl mai anmherffaith yw y goreu yn y byd drwg presenol Erbyn i mi gymeryd hamdden yn fy salwch i adfyfyrio ac i gymharu y naill beth â'r llall ac â'r Beibl, ni wn i am yr un enwad crefyddol â'i amcan yn gywirach am wneud daioni i bechaduriaid, na dim pobl debyeach i'r hyn ag y mae y Beibl yn gofyn i bechadur edifeiriol fod; ac yr wyf yn falchach o honynt nag y bum erioed.'