Tudalen:Cofiant a gweithiau Risiart Ddu o Wynedd.djvu/133

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

RISIART DDU. 121

rhaid addef, wedi y cyfaD, fod athrylith yn gwisgo pethau cyffredin â rhyw swyn arbenig ac annesgrif- iadwy. Y raae miloedd yn caru cael trem ar gap Burns, ac ar y canhwyllbren a ddefnyddiai pan yn cyfansoddi llawer o'i ganiadau ; a bydd miloedd yn hoffi cael syliu mewn boddhad ar goler a wisgai Byron pan yn blentyn. Nid yn fuan chwaith y bydd i'r bwthyn diaddurn He y ganwyd Shakespeare golli ei ddylanwad cysegredig ar galonau y lluoedd a'i myn- ychant. Yr ystyriaeth hon yn unig a'n tueddodd i ymdroi mor hir gyda'r rhan gyntaf o'r traethawd. Bydd yr oesau a ddelant yn darllen gyda hyfrydwch am noil amgylchiadau bywyd ein prif-fardd ; ond bydd yr amgylchiadau hyny yn ddyledus am eu dydd- ordeb i'r hyn sydd yn awr yn hawlio ein sylw, sef ei athrylith.

Br fod darnodiad Dr. Johnson o athrylith yn ei gosod allan fel rhyw allu mawr cyffredinol sydd yn cael ei droi i gyfeiriadau neillduol gan yr amgylch- iadau neillduol ag y bydd dyn athrylithgar wedi ei osod ynddynt ; eto gellid dwyn lluoedd o engreifftiau yn mlaen i ddangos mai er gwaethaf amgylchiadau neillduol eu bywyd y mae dynion athrylithgar yn gyffrediu wedi cyrhaedd eu nod. Daeth y naill yn arlunydd, nid oherwydd fod dim yn ei amgylchiadau yn ffafriol i hyny, ond er gwaethaf yr amgylchiadau mwyaf anffafriol. Rhagorodd y Hall fel rhifyddwr, pan y mynai amgylchiadau iddo ddilyn galwedigaeth hollol wahanol. Daeth y Hall yn fardd enwog, pan yr oedd amgylchiadau neillduol ei fy wyd yn gwahardd iddo sangu o gwbl ar derfynau cysegredig yr awen. Daeth llawer un yn bregethwr mawr a defnyddiol yn Nghymru, pan yr oedd ei rieni wedi amcanu iddo lenvvi sw.ydd arall, ac wedi ei osod yn y cyfryw amgylchiadau ag a dueddent i ysgogi ei feddwl at y