122 COFIANT
swydd hono, ac a dueddent yn uniongyrchol i'w gym- hwyso i gyflawni y swydd hono. Heb ymhelaethu ar hyn, credwn fod Rhagluniaeth yn cymhwyso dynion ar gyfer galwedigaethau neillduol. Ond yr ydym yn ofni fod llawer yn camgymeryd eu gwaith, ac yn lie cyflawni y swydd fydd yn ateb i'w cymhwysderau, yn dewis galwedigaeth na fwriadodd Rhagluniaeth erioed iddynt ymaflyd ynddi o gwbl. Yr ydym yn credu fod cryn lawer o wirionedd yn yr haeriad hwnw sydd wedi cael ei ailadrodd lawer gwaith, sef fod ami i draethodwr Gymreig gwych wedi ei ddinystrio, er mwyn gwneud bardd gwael. Yr ydym yn credu fod hyn yn wirionedd diamheuol, a chredwn hefyd nad ydy w ond rhan o'r gwirionedd. Nid traethodwyr yn unig a ddinystriwyd i wneud beirdd gwael, neu yn hytrach i wneud rhigymwyr dienaid ; ond y mae llawer o ddilledwyr, cryddion, seiri, amaethwyr, a dynion o bob galwedigaeth wedi cyfarfod cyn hyn a'r unrhy w anffawd wir alarus. Hwyrach mai camgym- eriad o'r fath yma yw yr achos fod cynifer o epäod barddoi yn Nghymru y dyddiau hyn. Nid oes genym ond ychydig o wir feirdd, tra y mae dosbarth y ffug- enwau yn rhy luosog i'w rhifo. Rhaid i ni ddim treulio amser i brofi mai fel bardd y cyrhaeddodd Ebenezer Thomas binacl enwogrwydd, ac ni raid ceisio dar- bwyllo undyn a ddarllenodd ei waith i gredu na chamgymerodd efe ei alwedigaeth; ond ei fod, yn bendifaddeu, wedi dewis y "gelfyddyd fawr " ag yr oedd Rhagluniaeth wedi ei addasu mewn modd neill- duol i'w chyflawni. Er mor ddiystyr ydyw enwau dynion yn ein hoes ni, fe addefa pob lienor Oymreig yn rhwydd ddigon fod gan ein prif-fardd un enw, beth bynag, ag oedd yn wir nodweddiadol o'r person a gynrychiolid ganddo, a'r enw hwnw ydoedd Eben Fardd. Enw mympwyol hollol, mewn gwirionedd,