oedd yr "enw priodol" Ebenezer Thomas, a buasai yr un mor briodol i unrhyw berson arall ag ydoedd i Eben. Ond am y "ffugenw" Eben Fardd, nid oedd dim ffug na mympwy yn perthyn iddo, ond yr oedd yn ddiau yn un o'r enwau mwyaf priodol a wisgwyd gan ddyn erioed.
Cyn sylwi mewn trefn ar gyfansoddiadau y priffardd o Glynnog, dylem yn ddiau roddi atebiad i'r gofyniad pwysig hwn, sef, yn mha bethau yr oedd Eben yn rhagori fel bardd? Mae gan bob gwynebpryd ei nodweddion arbenig a gwahanredol ei hun, ac felly hefyd y mae gan bob athrylith. Yn mha bethau ynte y gwahaniaethai athrylith Eben oddiwrth athrylith pob bardd Cymreig arall? A pherthynas agos i'r gofyniad hwn ydyw y cwestiwn canlynol—Yn mha le y saif Eben mewn teilyngdod cymhariaethol yn mhlith beirdd ein gwlad? Cyn ymdrechu ateb y gofyniadau hyn, byddai yn burion peth i ni, fe allai, osod i lawr ein safon. Cyn pwyso rhaid cael clorian, a chyn barnu rhaid cael safon. Gwell gan ambell fasnachydd gadw ei glorian o'r golwg, heb amlygu dim i'r prynwr heblaw pwysau honedig yr hyn a ddodwyd ynddi. Lled debyg yw ambell feirniad Cymreig. Traetha ei farn gydag awdurdod oracl, tra na sisiala un gair gyda golwg ar ei safon—os bydd ganddo safon o gwbl; canys fel y mae ambell bwyswr diofal yn barod i gymeryd ei fympwy yn rheol, yn lle ei glorian; felly hefyd y mae ambell feirniad yn barnu yn ol ei ddychymyg chwidr ei hun, ac nid yn ol un math o safon. Rhag syrthio i'r unrhyw amryfusedd ein hunain, yr ydym am fynegu yma wrth ba safon y bwriadwn farnu Eben fel bardd. Y mae ambell gyfansoddiad wedi enill y gamp mewn Eisteddfodau Cymreig, oherwydd ei fod yn wastad dda, er na byddai ynddo ddim ardderchog; tra y mae ambell