Tudalen:Cofiant a gweithiau Risiart Ddu o Wynedd.djvu/136

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

124 COFIANT

gyfansoddiad, o'r ochr arall, wedi colli y dydd, er yn cynwys ceinion o'r radd uchaf, a hyny oherwydd ei fod yn anwastad fel cyfanwaith. Nid ydym, mewn un modd, yn dewis mabwysiadu y rheol hon. Oredwn mai nid yr athrylith gryfaf, yn gyffredin, yw yr un gy wiraf, a mwyaf gwastad ei cherddediad. Ac y raae rheswm da i'w roddi dros hyn. Mae y dyn athrylithgar mor oludog mewn syniadau ardderchog, fel y mae, ambell waith, yn euog o ddefnyddio y golud hwnw mewn dull anmhriodol. Ond am y di-athrylith, nid oes ganddo ef ddim cyfoeth i'w gamddefnyddio, a gall eistedd yn dawel yn ei gadair wellt, adifyrueihunan drwy ganu yr hen ddiareb athronyddol — " Diogel y w dim ! " Mae gan athrylith adenydd nefol, â'r rhai y gall ehedeg yn hyf, uwchlaw y daearol a'r materol, i ororau heulog y tlws a'r aruchel, ac nid rhyfedd os digwyddgyfarfodag anffawd ambell dro. Ond nid ydyw y dyn diathrylith byth yn peryglu ei hun drwy ddyrch- afu i'r uchelderau o gwbl, eithr teithia yn mlaen mor wastad a rheolaidd a'r gerbydres, ond yn Rawer mwy araf a difywyd. Yr ydym ni, gan hyny, yn cydolygu yn hollol â Longinus, pan y dywed y dylid pwyso awdwr yn ol maint, ac nid yn ol rhifedi ei ragor- iaethau. Yr oedd y bardd Groegaidd, Apollonius, awdwr yr Argonautics, yn gyfansoddwr dilychwin ; ond yr oedd Homer, o'r ochr arall, er ei holl ragor- iaethau, yn euog o anafu ei orchestion penaf â llawer gwall ; eto cydnabyddir Homer yn brif-fardd gan bawb, ie, yn un o brif feirdd ein byd, tra nad oes ond ychydig yn gwybod am fodolaeth Apollonius, ac ni bydd yr ychydig hyny byth yn teimlo yr awydd lleiaf i ddarllen ei Argonautics, ond o gywreinrwydd yn unig.

Na feddylier oddiwrth hyn ein bod yn cefnogi an- nhrefn. Y mae cyfansoddiad di-lun, di-reol, a di-