-amcan yn beth nas gallwn ei gymeradwyo. Os bydd y cyfryw gyfansoddiad yn cynwys ambell i syniad gwych, dylid gwerthfawrogi pob teilyngdod o'r fath, ond dylid hefyd gondemnio y cyfanwaith. Yr oll y dadleuwn drosto yw, fod cyfansoddiad athrylithgar, er yn cynwys rhai brychau, yn well na'r cyfansoddiad perffeithiaf, os yn amddifad o athrylith; megys y mae yr haul, er fod rhai brychau ar ei wyneb, yn taflu y ser perffeithiaf i'r cysgod. Yr ydym hefyd yn meiddio myned gam yn mhellach, a dywedwn, heb y petrusder lleiaf, fod y cyfansoddiad mwyaf afreolaidd, os yn cynwys rhai syniadau ardderchog, yn well na'r cyfansoddiad trefnusaf, os yn gwbl ddienaid a diwerth. Gwell cael un bathod yn o aur pur, hyd yn nod pe byddai wedi ei gladdu mewn llaid, na phe ceid can' punt o arian drwg mewn pwrs ysblenydd.
Ar ol gosod i lawr ein safon, fel hyn, awn yn mlaen i farnu bardd Clynnog, oreu gallwn, yn ol y safon hono.
Gallem enwi amryw bethau a nodweddent Eben fel bardd, megys ei ddychymyg toreithiog; ac hefyd ei feiddgarwch, ei nerth, a'i ysplander—nodweddion a ganfyddir yn eglur yn ei syniadau ac yn ei arddull yr un pryd. Ond yr ydym yn credu y gwnaem gyfiawnder â'r prif-fardd, pe dodem un gair yn unig i gynrychioli ei brif ragoriaethau, sef y gair arucheledd. Y mae rhai o'r beirdd Cymreig yn fwy amrywiol a lliosog yn eu rhagoriaethau nag Eben, ond anhawdd dweyd fod odid neb o honynt yn meddu rhagoriaethau mwy nag sydd ganddo ef, yn gymaint a'i fod yn rhagori mewn peth mor bwysig â'r aruchel. Hwyrach y bydd rhywun yn barod i ddweyd mai gallu i greu ydyw prif ragoriaeth bardd, ac fod genym un bardd Cymreig yn fyw yn awr sydd yn meddu y gallu hwnw i raddau helaethach nag yr oedd Eben