Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant a gweithiau Risiart Ddu o Wynedd.djvu/142

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

teleidion; ond mwy dewisol gan Dewi yw synu ei ddarllenwyr drwy sôn am "y bryniau a'r creigiau cerygawg," neu ynte am y "manau crebach uwch meini cribawg," neu ryw olygfeydd mawrion ac aruthrol o'r fath. Y mae Alun, fel eos cerddber yn ymbleseru wrth ganu gogoniant anwylaidd ei ddyffryn genedigol. Gwrandawer arno:—

"Yna deffrodd awelon y Dyffryn,
A'u si trwy y dolau ac Ystrad Alun,
Haul drwy y goedwig belydrai gwed'yn,
D'ai lliw y rhod oll ar hyn—fel porphor,
A goror Maelor fel gwawr aur melyn."

Ond y mae Dewi, "mal cerub yn mol corwynt," yn taflu trem nwydwyllt ar y rhaiadr taranllyd ya disgyn bendramwnwgl dros y dibyn serth, a dywed mewn iaith briodol i'r testyn:—

"Uchel-gadr raiadr dŵr ewyn,—hydrwyllt,
Edrych arno'n disgyn,
Crochwaedd y rhedlif crychwyn,
Synu, pensyfrdanu dyn."

Mae yn hawdd deall, wrth ddarllen gwaith Eben, mai nid yn nyffryn tawel Maelor, ar lan hoff yr Alun hen," y ganwyd ac y magwyd ef, ond yn yr un gymydogaeth a Dewi Wyn. Ac er mor wahanol yw Eben a Dewi i'w gilydd, eto y mae y naill mor wahanol i Alun ag ydyw y llall; ac y mae y ddau yn dra thebyg i'w gilydd yn y nerth a'r aruthredd hyny a feithrinid ynddynt mor naturiol gan oror ramantus eu genedigaeth.

Cyn y gall dyn fod yn wir fawr mewn unrhyw beth, rhaid iddo fod yn fawr yn mhobpeth, i raddau. Yr un yw gwybodaeth, wedi y cyfan, er ei bod yn cael ei rhanu yn wahanol ddosbarthiadau, i gyfarfod ag anwybodaeth dynion. Mae yn fantais i ni gael y