Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant a gweithiau Risiart Ddu o Wynedd.djvu/143

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dosbarthiadau hyn, fel y gallo pob dyn gyflwyno ei oes fer, yn benaf, at fyfyrio y gangen hono fydd yn fwyaf cydweddol â'i alluoedd ef; ond rhaid addef, yr un pryd, fod holl feusydd gwybodaeth yn ymgolli yn raddol yn eu gilydd, nes yr ymddangoshant fel un cyfanfyd mawr o amrywiaeth diderfyn a chysondeb diball. Y mae yn anmhosibl, gan hyny, i unrhyw ddyn fod yn fawr mewn un peth, tra yn anwybodus hollol am bobpeth arall; o herwydd cyn y gellir meistroli unrhyw gangen o wybodaeth, bydd yn rhaid ymgydnabyddu i raddau â changhenau eraill. Yr oedd Homer nid yn unig y bardd penaf yn ei oes—a gadael allan y beirdd ysbrydoledig ond yr oedd hefyd y dyn mwyaf gwybodus yn ei oes. Nid yn unig yr oedd yn rhagori ar bawb yn nerth ei grebwyll; ond yr oedd hefyd yn hanesydd gwych, yn seryddwr galluog, ac yn athronydd dwfn. Er fod dysgleirdeb awen Milton wedi taflu ei ragoriaethau eraill i'r cysgod, eto rhaid i bawb sydd yn gydnabyddus a'i hanes addef ei fod y dyn dysgedicaf yn ei ddydd, fod ëangder ei wybodaeth bron yn anhygoel, a'i fod, fel ysgrifenwr rhyddieithol, yn rhestru yn uchel iawn yn mhlith prif awduron ei wlad. Yr oedd y Parch J. Elias yn dra dysgedig, ag ystyried drwy ba anfanteision y gweithiodd ei ffordd yn mlaen; ac yr oedd ei wybodaeth gyffredinol mor ëang ac amrywiol, fel y gallai lefaru am bob celfyddyd yr un fath, bron, a phe buasai wedi cael ei ddwyn i fyny yn y gelfyddyd hono. Gellir dweyd yr un peth yn hollol am Eben. Yr oedd yn ddyn tra dysgedig, os ystyrir ei amgylchiadau. Yr oedd yn efrydydd caled ar hyd ei oes. Rhagorai fel hanesydd, hynafiaethydd, beirniad, ieithydd, &c.; ac nid oedd yn anwybodus yn y wybodaeth benaf, sef Duwinyddiaeth, fel y prawf ysgrifau o'i eiddo a ymddangosasant o