bryd i bryd yn y "Drysorfa." Nid yn unig yr oedd yn bencampwr fel bardd, ond yr oedd hefyd yn draethodwr gwych, fel y prawf ei ysgrif alluog ar "Addysg," ei feirniadaethau meistrolgar, ac ysgrifeniadau eraill o'i eiddo. Gobeithio y gofelir am ddodi ei gynyrchion rhyddieithol yn mhlith ei gyfansoddiadau, pan eu cyhoeddir; a goreu bo cyntaf y cymero hyny le. Credwn mai un o brif ddiffygion y beirdd Cymreig yw, eu bod yn ymdrechu rhagori fel beirdd, heb fyned i'r drafferth i gasglu gwybodaeth yn gyntaf. Ymddygant yr un fath a phe byddent yn tybio fod yr Awen yn gallu gwneyd i fyny am ddiffyg gwybodaeth yn ei pherchenog, yn gystal ag y gall ysbrydoli y wybodaeth fyddo eisoes yn ei feddiant. Nid amcan Eben oedd cyfansoddi llawer, ac ymffrostio ei fod yn gallu canu hyn o hyn o linellau bob mynyd; ond ei amcan yn hytrach oedd ysgrifenu yn dda. Yr oedd, gan hyny, mor ymdrechgar i gasglu gwybodaeth ag ydoedd i wneuthur defnydd priodol o honi.
Y mae rhai dynion athrylithgar, ac yn wir y rhan fwyaf o honynt, yn ymgodi i sylw yn araf, yr un fath a thyfiad y dderwen, a chyrhaeddant enwogrwydd drwy wthio yn mlaen drwy luoedd o anhawsderau; tra y ceir eraill yn ymsaethu yn ddisymwth o gysgodion tawel dinodedd i ganol cyhoeddusrwydd a mawrhad. Cawn engraifft nodedig o'r dosbarth diweddaf yn y prifardd Hiraethog; canys ei ymgais cyntaf ef at farddoni ydoedd ei Gywydd campus ar "Frwydr Travalgar," yr hwn a'i gwnaeth yn enwog ar unwaith fel bardd, er ei fod wedi myned ar gynydd parhaus ar ol hyny. Daeth Eben Fardd hefyd yn enwog ar unwaith; ond nid drwy ei ymdrech gyntaf fel Hiraethog. Gweithio ei ffordd yn araf, fel y cyffredin o feibion athrylith, ddarfu Eben. Cyrhaeddodd y nod yn ddisymwth, mae'n wir, ond yr oedd wedi