Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant a gweithiau Risiart Ddu o Wynedd.djvu/145

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

bod yn cyrchu yn barhaus at y nod hwnw er ys llawer dydd, er nad oedd y cyhoedd yn gallu gweled ei symudiadau. Yr oedd wedi dechreu rhigymu er pan yn saith oed, fel yr addefai yn ei araeth yn Eisteddfod Madog, pan dderbyniodd ddarlun hardd o hono ei hun, fel arwydd o barch calon ei gydwladwyr tuag ato-amgylchiad yr anghofiasom ei gofnodi yn y rhan gyntaf o'r traethawd. Yr oedd hefyd wedi bod yn ddisgybl barddol i Dewi Wyn a Sion Wyn o Eifion er pan yn bedair-ar-ddeg oed; ac er mai yr Awdl ar "Ddinystr Jerusalem" oedd y cyfansoddiad cyntaf, fe allai, a anfonodd i gystadleuaeth, eto rhaid ei fod wedi cyfansoddi llawer o ddarnau eraill yn y cyfwng o saith mlynedd oedd wedi myned heibio er pan roddasai ei hun dan ddisgyblaeth ei athrawon.

Cysylltir enw Eben braidd bob amser â "Dinystr Jerusalem," fel pe byddai ei fri fel bardd yn dibynu yn benaf ar y cyfansoddiad hwnw; ac y mae dynion a ystyrid yn "feirniaid craffus" wedi meiddio dweyd wrth y byd na chyfansoddodd bardd Clynnog ddim byd cystal a'r Awdl hono. Yr ydym ni, pa fodd bynag, yn cael ein tueddu i farnu yn wahanol; a chredwn mai cam ag Eben yw cyfeirio at "Ddinystr Jerusalem" fel campwaith ei oes. campwaith ei oes. Mae'n wir fod y cyfansoddiad hwn wedi cael llawer gwell mantais i gyrhaedd poblogrwydd nag a gafodd cyfansoddiadau dilynol y bardd. Yr oedd yr awdwr yn ieuanc, yn llawer ieuangach na'r un cadeirfardd a ymddangosasai o'i flaen, ac yr oedd wedi cyrhaedd prif anrhydedd llenyddol ei wlad mewn modd disymwth ac annisgwyliadwy. Yr oedd canmoliaeth ddigymysg y beirniad hefyd yn gynorthwy nid bychan i beri i'r wlad feddwl yn fawr o'r Awdl. Dyma fel y dywedodd Gwallter Mechain am dani:—