gelfyddgar, yn gwysio ger ein bronau y prif wrthddrychau perthynol i'r rhan yma o hanes y Patriarch. Mor brydferth a dyddorawl yw ei blant—mor fywiog ac ufuddgar ei liosog wasanaethyddion—mor gryfion ei ychain i aredig, a'i gamelod i gludo. Y bryniau a orchuddir â defaid, a'r asynod a branciant ar hyd y dyffrynoedd. Rhyfedd fel ag yr ymbilir âg ef oherwydd ei fawredd, y cerir ef oblegid ei gymwynasgarwch, yr anrhydeddir ef am ei uniondeb, ac yr arswydir ef oherwydd ei awdurdod, fel unbenaeth holl wlad Us.
"Wedi hyn y mae'r awdwr, gyda dirfawr fedrusrwydd a dealltwriaeth, yn gosod allan y cyfnewidiad yn amgylchiadau y pendefig. Tra y mae yn mron bob un o'r ymgeiswyr eraill weli bod yn ofalus am fanwl adrodd y ddau ymddyddau rhwng Duw a Satan, y mae cyfansoddwr yr Awdl dan sylw yn myned heibio i'r pethau hyny yn unig gyda chrybwylliad ddarfod i'r Arglwydd weled bod yn dda roddi meddianau ac iechyd Job i awdurdod ei elyn. Yna yr amrywiol ganlyniadau o hyny a ddesgrifir yn y dull mwyaf darluniadol a chynhyrfiol. Er bod y gwaith wedi ei gyfansoddi yn ol ein rheolau mwyaf rhwymgaeth, y mae'r dull yn rhwydi a rhedegog, a meddylddrychau yr awdwr yn dryloyw ac eglurlawn. Pe bai dim a gymodai ragfarn tuag at y rheolau caethion, diau mai darllen y rhan yma o'r Awdl a wnai hyny. Mae olyniad cyflym y naill genad ar ol y llall, pob un a'i chwedl drallodus, yn cael ei drin gyda medrusrwydd ac effeithiolrwydd rhyfeddol, a chyda grymusder anhefelydd. Mae nodweddiad ei wrthddrych yn cael ei ddal allan yn gyson gan yr awdwr drwy holl ystod y trychineb a bentyrid arno, a'r amrywiol amgylchiadau cysylltiedig â'r rhan yma o'i hanes a adroddir gydag archwaeth a threfnusrwydd rhagorol, ac mewn dull gwir farddonol. Ond manwl—nodi yr amrywiol ddygwyddiadau a ddygir i mewn yma, y rhai trwy eu bod yn cael eu mynegu gyda'r fath ddeheurwydd gan yr ysgrifenydd, ydynt fel cynifer o addurniadau i'r Awdl, eto a dreuliai ormod o amser y cyfarfod, heblaw bod hyny yn afreidiol i'r Cymry, y rhai a gânt glywed a darllen y farddoniaeth drostynt eu hunain.
"Y Beirniaid, wedi iddynt fel hyn nodi allan rai o ragoriaethau yr Awdl hon, ar yr un pryd a ystyriant yn ddyledswydd arnynt addef nad yw ychwaith yn hollol lân oddiwrth rai anafau i lychwino peth ar ei bri. Eithr ar yr achlysur presenol annymunol fyddai manylu ar y rhai hyny y mae yn ddilys ganddynt fod gwallau y gwaith mor ychydig a dibwys mewn cymhariaeth i'w amryfaith ragoriaethau, fel nad ydynt i'r radd leiaf yn lesteiriad i'r Beirniaid restru y cyfansoddiad yn mhlith y cynyrchion barddonol penaf a ymddangosodd erioed yn y Gymraeg."