Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant a gweithiau Risiart Ddu o Wynedd.djvu/154

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Dodwyd y feirniadaeth uchod yn mhlith yr ysgrifau rhyddieithol sydd yn y "Geirionydd," ac y mae hyny yn awgrymu mai Ieuan, ac nid ei gydfeirniad, a'i hysgrifenodd. Y mae yr ergyd lem a roddir i'r mesurau cynghaneddol hefyd yn awgrymu yr un peth; canys ysgrifenodd Ieuan yn dra nerthol yn erbyn y mesurau caethion yn y "Gwladgarwr." Barna rhai, pa fodd bynag, mai yn y gynghanedd y cyfansoddodd oreu. Dyma fel y dywed awdwr galluog y traethawd ar ei "Fuchedd a'i Weithiau Llenyddol" sydd yn nechreu y "Geirionydd," "Y mae yn ei Awdlau, i'n bryd ni, ar y cyfan, wedi dyfod allan yn gryfach nac yn yr un dosbarth arall o'i waith, er rhagored ydyw y lleill oll." Ond i ddychwelyd at ein pwnc, bu Ieuan yn ddigon teg, er gwaethaf ei ragfarn at y gynghanedd, i roddi canmoliaeth deilwng i fedrusrwydd Eben Fardd yn y mesurau cynghaneddol. Addefir fod "y dull" nid yn unig yn eglur a dealladwy, ond hefyd "yn rhwydd a rhedegog, a meddylddrychau yr awdwr yn dryloyw ac eglurlawn." Nid anmhriodol mynegu yma fod Eben yn un o'r cynghaneddwyr goreu. Hwyrach fod rhai yn rhagori arno mewn llyfnder a naturioldeb, ond am nerth y mae yn ddiguro, ac yn ogyfuwch â Dewi Wyn ei hunan. Y mae ei Awdlau mor lawn o gynghanedd, nes y cwynai un beirniad eu bod wedi eu cynghaneddu yn rhy rymus, gan ddadleu fod gormod o gynghanedd yn foddion i gelu y meddwl yn hytrach na'i rymuso a'i addurno, yr un fath ag y mae gormod o addurniadau allanol yn foddion i guddio tegwch benywaidd, yn hytrach nag i'w osod allan yn y ffordd oreu. Yr oedd Eben yn feistr yn y gynghanedd. Er rhagored cynghaneddwr ydoedd ei gydoeswr, Ieuan Glan Geirionydd, eto ni byddai ef yn gallu ymddangos yn hollol gartrefol yn y mesurau cynghaneddol; ond am Eben, yr