Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant a gweithiau Risiart Ddu o Wynedd.djvu/155

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oedd mor feistrolgar yn y gynghanedd Gymreig ag ydoedd Milton yn mesur diodl y Saeson. Rhaid ei fod hefyd yn dra hoff o'r gynghanedd, cyn y buasai yn ei defnyddio yn ei ganiadau rhyddion, megys "Cofia'r farn a fydd," "Heddyw a foru," "Y byddyn—a chrefydd," &c., pan nad oedd y mesurau yn ei orfodi, mewn un modd, i'w defnyddio. Mae yn wir ei fod wedi dewis y mesur rhydd i ganu ar "Yr Adgyfodiad," ac y mae yn dda genym mai felly y gwnaeth; ond pan aeth, yn mhen blynyddoedd wedi hyny, i ganu ar Eglwys henafol Clynnog Fawr, dewisodd y mesurau cynghaneddol, a gwnaeth Awdl, a da genym mai felly y bu, canys barnwn ei fod wedi dewis y mesurau mwyaf addas i'r pwnc. Yr oedd Eben, fel pob bardd gwir fawr, yn rhy eang ei feddwl i ymlynu yn wasaidd wrth unrhyw fesur neu fesurau neillduol; ond dewisai y mydr fyddai yn fwyaf cydweddol, yn ei dyb ef, ag anianawd y testyn y canai arno.

Nid ydyw yr Awdl ar Job, fel yr awgrymir yn y feirniadaeth, "yn hollol lân oddiwrth rai anafau." A pha waith dynol sydd felly? Nid ydym yn gweled y gellir ystyried y llinellau canlynol yn gywir o ran eu cynghaneddiad, er nad ydyw y sain yn anhyfryd:―

"Gwrando, a chlustfeinio fu."
"Am iddo felldithio Duw."

Darlunir y wlad doreithiog, yn yr hon y trigianai Job, fel

"Perfedd gwlad, porfeydd y glyn."

Nis gallwn ystyried "perfedd gwlad perfedd gwlad" yn ymadrodd chwaethus; ac nid arwydd o goethder ydoedd galw meibion urddasol Job yn "Hogiau." Buasai y ddwy linell ganlynol yn fwy eglur pe buasent wedi eu cyfleu yn wahanol—y gyntaf wedi ei dodi yn olaf:—

Wrtho ef i draethu hyn
Ond ni anturiai undyn."