Y gwall pwysicaf, mewn geiriad, yn yr holl Awdl, fe allai, yw yr un a geir yn y llinellau canlynol, lle y desgrifir corwynt aruthrol:—
"A'i ergydiad mor gadarn,
Naddai y ddôl yn ddwy ddarn."
Nis gwyddom pa beth a barodd i'r bardd gymeryd y gair darn mewn ystyr fenywaidd, canys buasai y gynghanedd yr un mor gywir pe dywedasid yn ddau ddarn. Ond nid dyna brif wall y llinell. Y gwall a ystyriwn yn bwysig yw yr ymadrodd annaturiol naddu yn ddau ddarn; ac y mae y llinell yn llawer mwy annyoddefol, o gymaint a'i bod yn terfynu un o'r desgrifiadau mwyaf grymus a anadlwyd gan un bardd erioed. Yr ydym hefyd yn barnu fod gosod geiriau Job, ar ol iddo glywed adroddiadau difrifol y cenadau, ar waelod y ddalen, yn lle yn eu sefyllfa naturiol, yn ymddangos yn rhodresgar yn hytrach nag yn effeithiol. Nis gwyddom ddarfod i unrhyw fardd Cymreig lwyddo i wneyd defnydd doeth ac effeithiol o'r cyfryw ddull anarferol, oddieithr Glan Geirionydd yn ei "Wledd Belsassar."
Wedi y cyfan, yr ydym yn cytuno yn hollol â'r ganmoliaeth uchel a roddir i Awdl "Job" yn y feirniadaeth a ddyfynwyd. Er ei bod agos gymaint arall a "Dinystr Jerusalem," o ran hyd, eto y mae yn llawer glanach oddiwrth wallau, ac yn cynwys mwy o ddarnau gorchestol. Arddanghosir mwy o grebwyll ynddi, trinir y testyn yn fwy trwyadl, ac y mae y bardd yn ymddangos yn fwy meistrolgar, yn fwy hunanfeddianol, ac yn gyflawnach o adnoddau nag yr ymddengys yn "Ninystr Jerusalem." Pe buasai yr awdwr yn gadael ein byd heb gyfansoddi dim gwell na'r Awdl ar Job," buasai ei fri yn llewyrchu yn ddysglaer iawn yn mhlith beirdd penaf ein cenedl.