Long, long be my heart with such memories filled,
Like vase in which roses have once been distilled;
You may break, you may shatter, the vase if you will,
But the scent of the roses will hang round it still,"
|
Terfynwn ein sylwadau gyda'r Englynion canlynol i'n brawd a'n cyfaill:
Gwir gyfaill, gŵr i'w gofio—oedd
Risiart Ddu rasol; mae wylo,
Yn ei fedd, am dano fo—
Calon cariad clyw'n curo!
Risiart Ddu oedd gu ei gân,—oedd enwog,
O farddonol anian;
Yn goeth oll gweithiai allan
Gynlluniau teg yn llawn tan.
Ac y'ngenau cynghanedd—rhoes eiriau
I siarad gwir fawredd;
Llon odlau llawn hyawdledd
Eiliai fyth hyd ael ei fedd.
Ei englyn, pryddest orchestol,—a'i awdl
Ddyhidlant wlith nefol;
O'i gywyddau ceir gwaddol,
A gwir wres o'i gynes gôl.
Ei lathr, olau athrylith—ei ddysg
A'i ddawn oeddynt fendith;
Dwyfron ei gân sydd dewfrith
O berlau man, glân fel gwlith.
|