Gweithiau byw er gwaetha' bedd—oroesant
Risiart Ddu o Wynedd;
Ei enw saif ar bena' sedd
Meib enwog yn mhob anedd.
Lienor yn deall hanes,—a beirniad
Heb wyrni na rhodres;
O'i dirion fywyd eres
Erys i'r llu wers er lles.
Ei bur, goethaf bregethau—gynwysent
Gynesaf deimladau:
Sain hudol ei syniadau
Goleddai'r gwir, gladdai'r gau.
Agorai'i enau, gwirionedd—lifai
Fel afon arabedd;
Ys amlwg oedd ei symledd—
Ac yn y tir cenad hedd!
Am orau addysg ymroddodd,—llawn aidd
Llenyddol ddanghosodd:
Gwastadol teg astudiodd—
A'r asbri drwy'r ysbryd rodd!
Gysegredig oes! gwrida—dyhirod
O herwydd ei yrfa;
Ei oes lafurus lefara
Heb lid a dig o blaid y da.
Darfu'r loes i'r dirfawr lu—filiynau
Folianant yr Iesu;
Nid cwynion mwy, ond canu
Uwch ing dwys—uwch angau du.
—Mawddwy.