Tudalen:Cofiant a gweithiau Risiart Ddu o Wynedd.djvu/96

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

EBEN FARDD:

TRAETHAWD BYWGRAFFYDDOL A BEIRNIADOL AR EI FYWYD A'I ATHRYLITH.

Buddugol yn Eisteddfod Aberystwyth, 1865.

Beirniaid: Y Parch. W. Jones (Myfyr Môn), a'r Parch. Lewis Edwards, D.D.

Derbyniwyd tri o draethodau, a marwnad gan " Hen Wr Penwyn." 1. Traethawd "Gwallawg ab Llenawg" sydd gyfansoddiad galluog a medrus. Amlwg yw fod yr awdwr yn hynod o gydnabyddus â'r bardd o Glynog. Y mae hefyd wedi darllen ei waith gyda llawer o graffter a manylwch. Odid fod rhaglith y traethawd yn rhy faith, er y gellir honi ei fod yn dwyn perthynas a'r prif bwnc. Gellir tybied y bydd llawer yn anghymeradwyo y meithder, tra y bydd rhai yn cael boddhad yn y nodweddiad hwn o'i eiddo. Ymddengys fod y traethawd wedi ei gyfansoddi gyda llawer o frys. ac y mae hyn yn dyfod i'r amlwg yn mhob tudalen mewn rhyw ddull; ond addawa yr awdwr, os bernir ei draethawd ef yn oreu, "doccio a thacluso ei waith." Byddai hyn yn orchwyl pur angenrheidiol. Er mor haeddbarch yw galluoedd a chraffder yr ysgrifenydd, nid all y beirniaid gytuno ag ef yn ei olygiad ar Bryddest y bardd ar yr Adgyfodiad. Y mae efe yn ei chondemnio yn drwyadl. Ond nid ydym ni, ac nis gallwn wneyd hyny. Ar yr un pryd nid ydym yn anwybodus o'i gwallau, nac yn anghofio fod ynddi efelychiadau o Polock ac o Milton, ond nid ydym yn ystyried efelychiad yn ddinystyr ar werth Pryddest yn yr oes ddiweddar hono'r byd, yn arbenig pan y gwneir hyny mewn iaith wahanol i'r un y dichon fod y cyfansoddiad a ddilynir wedi ymddangos ynddi; ond os ceir un fwy gwreiddiol dylai hono gael y flaenoriaeth, os mewn ystyrion ereill, y bydd yn meddu cyfartaledd. Onid efelychiad o Josephus ac awduron ereill, o ran syniadau, yw yr Awdl ar Ddinystyr Jerusalem, yr hon a folir mor fawr. Efelly hefyd yr Awdl ar Job. Y mae peiriannau'r gwaith, o angenrheidrwydd, wedi eu cymeryd o'r Llyfr Dwyfol, ac felly hefyd y mae y prif addurniadau. Gwisgo y cyfan a wnaeth Eben Fardd mewn gwisg newydd, ie, mewn tynion gadwynau. Yr ydym ni yn barnu mai y Bryddest ar yr Adgyfodiad yw