orchest benaf a gyflawnodd bardd Clynog. Hyderwn fod yr awdwr wedi gadael ar ei ol adysgrif o'r Bryddest yn cynwys gwelliadau, yn y mrydryddiaeth yn neillduol, ac mewn pethau ereill a fernid yn anmherffeithiau. Ond er nad ydym yn cydfarnu â "Gwallawg" ar rai pethau yn ei draethawd, ac er fod llawer o waith tacluso ar ei ysgrif, eto yr ydym yn meddu syniadau cymeradwyol o'i alluoedd, ei lafur canmoladwy yn ei efrydiaeth ar ei destyn, yn gystal ag o herwydd haeledd yr ysbryd a ganfyddir, yn gyffredinol, yn ei waith.
Yr ail draethawd a dearllenasom sydd wedi ei arwyddo "Gwyneddwr." Y mae ei eiddo ef yn rhywbeth tebyg i fywyd dyn megys Eben Fardd. Deuai pethau ar ol eu gilydd, yn rhyw ddigwyddiadol, ac nid megys o dan lywodraeth rheol. Rhywbeth tebyg iawn yw hyn i fywyd un o'r teulu dynol. Ac felly nid oes drefn ddilynol yn mhob man, yn y traethawd gan "Gwyneddwr." Dygir pethau i ymyl eu gilydd weithiau a gymerasant le flynyddoedd ar wahan. Gwelir hyn yn y tudalenau canlynol, sef 335 a 359. Geilw gonestrwydd arnom i fynegu fod tipyn o ddiofalwch yn ymddangos yn y cyfansoddiad drwyddo oll. Er hyny cynnwysa gasgliad helaeth iawn o ffeithiau nodweddiadol o'r bardd galluog. Ymddengys syniadau y bywgraffydd i ni yn gywir, oddeithr y gellir ei gyhuddo o ormod edmygedd gyda golwg ar wrthdrych y cofiant. Gwir yw ei fod yn nodi allan ei ddiffygion, i raddau, yn gystal ag yn arddangos ei ragoriaethau. Yn arbenig gwna wasanaeth bwysig i lenyddiaeth ei wlad trwy ei sylwadau helaethion a doniol o barth y Bryddest ar yr Adgyfodiad. Y mae ei amddiffyniad yn gampus a foddhaol o'r gwaith gorchestol hwnw. Hyderwn nad â traethawd hwn ar goll, ond y ca y wlad y fantais o wybod ddrwyddo hanes buchedd, a gwybod yn helaeth am weithiau amrywiog y bardd talentog. Medda y traethawd hwn lawer o ragoriaethau, a haedda y wobr addawedig.
Y trydydd traethawd sydd wedi ei arwyddo â'r enw "Ioan." Ysgrifena yr awdwr hwn oddiar wybodaetn fanwl o wrthddrych ei destyn. Y mae efe yn dilyn y bardd o'i febyd i'w fedd yn hynod o ffyddlon. Pe na buasai dau o draethodau ereill yn y gystadleuaeth yn rhagori buasem gyda hyfrydwch yn cymeradwyo i'r wobr gael ei rhoddi i "Ioan" Yr ydym yn sicrhau iddo mai nid ychydig o ddyddordeb a gawsom yn y darlleniad o'i waith, a hyfryd fyddai genym weled y traethawd mewn argraff. Yn y gwaith hwn ceir gweled ymdrechion y bardd yn nghanol anhawsderau, a'i lwyddiant yn y gorchfygiad o honynt, mewn modd goleu ac argraffiadol. Fe allai fod yr ardeb, ar y cyfan, dipyn yn rhy aruchel. Un o feiau y Cymry yw dyrchafu ychydig o beth Cymreig fel pe byddai yn aruthrol o fawr. Yn lled aml