Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/34

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ethwr poblogaidd, yn weinidog llafurus, yn arweinydd. diogel, ac yn weithiwr diflino gyda phob rhan o waith yr Arglwydd.

Yr oedd Mr. Humphreys, fel penteulu, yn gwir ofalu am holl dylwyth ei dŷ. Y mae y llythyrau byrion a dderbyniasom oddiwrth ei ferch, Mrs. Morgan, y rhai a ysgrifenwyd atti gan ei hanwyl dad pan ydoedd yn yr ysgol yn Nghaerlleon, yn ddangosiad cywir o'r gofal oedd ganddo am ei blant. Rhoddwn rai o honynt yma.

Faeldref, Tach. 13, 1844.

"Fy Anwyl Blentyn,—

Y mae yn esmwythyd i fy meddwl wybod dy fod o'r diwedd wedi cymmodi a'th ran, a bod yr hiraeth annedwydd am gartref erbyn hyn drosodd. Hyderaf dy fod yn gwneuthur y goreu o'th amsercofia na ddychwel dyddiau ieuenctyd i roi cyfleusdra i ti wneyd gwell defnydd o honynt. Fe fyddaf fi yn teimlo yn bur bryderus i dreulio yr hyn sydd yn ol o'm dyddiau yn y fath fodd fel ag y gallwyf eu hadolygu ar wely angeu heb arswyd nac ochenaid. Yr wyf yn gobeithio dy fod yn gweddio yn aml ar Dad y trugareddau am iddo dy oleuo â'i Yspryd daionus, fel y gwelych ogoniant y Gwaredwr mawr, ac y rhoddych dy hun trwy ffydd yn gwbl iddo, ac y cyflwynych dy. hunan yn llwyr i'w wasanaeth. Llafuria i gael golygiadau clir am natur ei deyrnas, a phrofiad dedwydd o felusder ei ras. Bydd yn dda genym dy weled adref unwaith yn rhagor. Bydded i'r Arglwydd dy fendithio a'th gadw. Hyn yw taer a beunyddiol weddi

 Dy byth serchus Dad,

 RICHARD HUMPHREYS"

Ysgrifenwyd yr ail lythyr o Fanchester, mewn atebiad i lythyr a gawsai oddicartref, yn hysbysu am afiechyd un o gyfoedion ei ferch.

Manchester, Ion. 21, 1845.

"Anwyl Ferch,—

Yr oedd yn ddrwg genyf ddarllen am afiechyd L. W. Yr wyt yn gobeithio y bydd iddi wella, ac y cymer Duw drugaredd arni hi a'i rhieni, o herwydd yr wyf yn teimlo y funud yma pa mor anfoddlawn a fuasai dy fam a minnau i ymadael â thi: a pha mor bwysig ydyw bod yn barod erbyn y dygwyddiad mawr—angeu, yr hwn sydd yn ymweled â dynolryw yn mhob cyfnod o fywyd. Yr wyf yn gobeithio y bydd afiechyd L. W. yn rhybudd i ti beidio gohirio neu aros yn anmhenderfynol gyda golwg ar yr un peth angenrheidiol. Fy ngeneth anwyl, gweddia yn aml ac yn daer, a thyred yn amserol i gyfammod difrifol gyda Duw, i'w gymeryd ef yn Dduw i ti, a'i uniganedig Fab yn Waredwr, Offeiriad, Prophwyd, a Brenhin, a'i Yspryd daionus i'th sancteiddio, i'th arwain, a'th ddiddanu, a'i Air sanctaidd yr Ysgrythyrau, yn rheol yn mhob peth o natur foesol. Ni elli wneyd hyn