Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/35

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn rhy fuan nac yn rhy ddyfal. Y mae rhy arwynebol a rhy ddiweddar y ddau yn beryglus. Anwyl Jennette, myfyria ar y pethau hyn yn aml; gweddia hwynt gyda theimlad, fel y byddont yn cael eu hargraffu ar dy feddwl. Bydded yr Arglwydd gyda thi. Bydded Duw dy Deidiau, a Duw dy Neinoedd, ïe, Duw dy Dad a'th Fam gyda thi hefyd.

Dy Anwyl Dad,

RICHARD HUMPHREYS.


Maentwrog, Mai 1af, 1845.

Fy Anwyl Ferch,

Gobeithiaf dy fod yn gwneuthur defnydd da o'th amser a'th gyfleusdra i wella. Bydd ostyngedig a hawdd i'th ddysgu. Cymer ofal rhag rhoddi poen afreidiol i'th athrawon. Na fydd ymhongar. Gochel fursendod o bob peth. Adnebydd dy hun, a thi fyddi ostyngedig; adnebydd Dduw yn Nghrist, ac ni lwfrhei. Myfyria ar yr hyn a ddarlleni, a gwrando; edrych i mewn i bethau: na fydd bob amser ddrwgdybus, fel rhai pobl; ac nac ymddiried ormod chwaith. Gweddia yn aml ac yn daer. Cais olygiadau clir ar y Gwaredwr gogoneddus. Byddaf yn gweddio bob dydd drosot, ac yn meddwl llawer am danat. Er i rieni duwiol weddio dros rai plant, etto fe eu collwyd; ond gwrandewir bob amser y rhai a weddiant yn daer eu hunain.

Ydwyf, anwyl Jennette, dy serchus Dad,

RICHARD HUMPHREYS.

Ond nid am ei blant yn unig yr oedd yn gofalu, yr oedd llwyddiant tymhorol ac ysprydol ei wasanaethyddion yn cael lle mawr ar ei feddwl. Y mae un o'i hen weision, y Parch. R. Griffith, Bryncrug, wedi rhoddi i ni yr adroddiad hwn am dano fel meistr. "Ymddiddanai â'i was yn rhydd, siriol, a chyfeillgar. Fe fyddai pob gwas yn cael yr un chwareu teg ganddo i ffurfio ei gymeriad. Gadawai y gwaith o flaen y gwas newydd, a byddai am beth amser mewn sefyllfa o brawf: ond nid oedd pob un o honynt yn deall hyny. Adwaenai bawb wrth eu gwaith, ac ni feddyliai ddrwg am yr un o honynt hyd nes y byddai rhaid iddo. Yr oedd wedi cael achos i ddrwgdybio un am ei onestrwydd; a phan yn cychwyn oddicartref i daith, dywedodd wrtho, Paid ti a dwyn llawer, Wil, tra y byddaf fi i ffwrdd.' Aeth ei eiriau fel brath cleddyf i galon Wil, ac ni chafodd ei feistr ei flino na'i golledu ganddo mwyach. Ond gwyn ei fyd y gwas ffyddlon; enillai hwnw barch, ymddiried, a chlod, a gwahoddid ef yn fynych i eistedd gyda phendefigion, a rhan yn holl ragorfreintiau y teulu.