Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/36

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yr oedd efe, a'i anwyl briod, yn craffu ar ffyrdd tylwyth eu tŷ; gofalent am eu hiechyd, eu cysuron, ac yn neillduol am iachawdwriaeth eu heneidiau. Byddai yn fynych yn eu cynghori i wneyd y goreu o'r ddau fyd; a llawer gwaith y dywedodd wrthynt am beidio a myned ar ol eu blysiau. Ni welais ef wedi colli ei dymmer dda erioed, it roddi mwy o ddrwg i ni na dywedyd, pan y byddem wedi dyfetha ei arfau, "Ni waeth i mi geisio taflu fy het yn erbyn y gwynt na cheisio cadw mîn ar fy arfau yn y fan yma.'

Ni a ddodwn yma ymddiddan a fu rhyngddo â'r Parch. Robert Griffith pan oedd yn was gydag ef, ac a ysgrifenwyd gan Mr. Humphreys ei hunan i'r "Methodist." Testyn yr ymddiddan ydoedd

SEFYLLFA PRAWF.

Ar ryw ddiwrnod hynod o haf, tua diwedd mis Mai, er's amryw o flynyddoedd yn ol, yr oedd meistr a gwas yn gweithio yr un gwaith, ac yn yr un maes, gan ddefnyddio y cyffelyb arfau a'u gilydd. Yr oeddynt yn lled ddifyrus, oblegid y mae pleser mewn gwaith na ŵyr y segur ddim am dano. Pa fodd bynag yr oedd y meistr yn dechreu heneiddio, a gorchest wedi myned yn annaturiol iddo; ond yr oedd y gwas yn mlodau ei ddyddiau, pan nad yw gwaith yn boen na blinder. Ond am y meistr nid felly yn hollol yr oedd gydag of; canys wrth hir balu, teimlai ddolur o'i gefn, a chodai ei ben, a rhoddai yr hyn a alwai yr hen bobl yn "fron i'r rhaw," sef rhoi ei bwys arni, a'i ddwylaw ar ei phen uchaf, a phwys ei fynwes ar hyny. Ac am eu bod yn lled hoff o ymddyddan ill dau, a'r un gwaith bron wedi eu dwyn i'r un lefel, gofynai y

GWAS.—Meistr, beth mewn gwirionedd yw y sefyllfa prawf y clywaf gymaint am dani yn y dyddiau hyn ?

MEISTR.—Sefyllfa prawf yw sefyllfa o ymddiried, lle y gall y sawl sydd ynddi weithredu ffyddlondeb neu anffyddlondeb i'w harglwydd, ac mewn canlyniad gael eu gwobrwyo am y ffyddlondeb neu eu cospi am yr anffyddlondebd yna yn fyr yw sefyllfa prawf, os wyf fi yn iawn ddeall.

G.—Y mae hynyna o'r goreu gyda golwg ar ddynolryw cyn y codwm mawr, ond byth wedi hyny y mae fy Meibl yn rhoi ar ddeall i mi fod cyflwr plant dynion yn dra gwahanol. Nis gallaf fi gredu fod dyn yn awr fel