Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/37

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ei crewyd ar y cyntaf, mwy nag y gallaf symud yr Wyddfa.

M.—Nid oes eisieu i ti gredu hyny, sef fod dyn mal cynt. Cymer ddyn fel y mae, ac fel y dengys yr Ysgrythyr a ffeithiau ei fod; gan hyny gâd yr Wyddfa ar ei stôl, a chymer ddyn yr hyn ydyw, ac nid yr hyn ydoedd; ac ar yr un pryd ystyriaf sefyllfa bresennol dyn yn un brofedig.

G.—Nis gwn i pa fodd y dichon y pethau hyn fod.

M.—Ti ddylit ystyried pa bethau a gollodd dyn, trwy ei gwymp, a'r a oedd ganddo o'r blaen, a pha bethau nis collodd, y rhai sydd ganddo eto. Amlwg yw iddo golli heddwch Duw o'i gydwybod, ond ni chollodd ei gydwybod; collodd ddelw Duw oddiar ei enaid, ond ni chollodd resymoldeb ei enaid—y mae yn greadur rhesymol o hyd; collodd gymdeithas Duw, ond ni chollodd y duedd i gymdeithasu. Weithian, gan hyny, y mae cyfrifoldeb byth a hefyd yn nglŷn wrth resymoldeb, ac nid ysgerir hwynt. Y mae gwobr neu gosp hefyd yn gysylltiedig â rhyddid ac â chydwybod, yn ol fel y defnyddir y naill a'r llall. Y mae pob dyn yn brofiadol ei fod yn rhydd, a bod ganddo gydwybod. Gwir yw fod Duw yn ei brofi a diafol yn ei demtio; ond nis gall diafol ddwyn ei ryddid oddiarno, ac nis gwna Duw.

G.—Myfi a welaf fod rhyw fath o brawf yn cael ei roddi ar bob math o ddynion, pa un bynag ai cyfiawn ai drygionus, ai yr hwn a wasanaetha Dduw ai yr hwn nis gwasanaetha ef; ond, fy Meistr, pa beth yw y gwahaniaeth rhwng prawf ein tad Adda yn Eden a'n prawf ni, ei epil, yn yr anialwch? oblegid yr wyf yn deall fod ei sefyllfa ef yn sefyllfa prawf i bob amcan a dyben; ond yn mha beth y mae y gwahaniaeth?

M.—Ti wyddost yn dda ddigon pa fodd y daethost ti yn was ataf fi, a pha fodd y daeth y wasanaethferch sydd yma hefyd ataf; daethoch o bell, ac o sir arall o Gymru, ond yr oedd genych garictor fel gwas a morwyn gonest a ffyddlon; ond nid oedd eich bwyd a'ch cyflog yn dyfod i chwi am fod felly, ond am barhau felly. Pe buasech anffyddlon i'r ymddiried a roddid ynddoch, buasai raid i chwi droi allan i'r byd mawr llydan heb wobr na charictor. Wel, dyna yn gymwys oedd sefyllfa ein tad a'n mam, Adda ac Efa: yr oedd eu cymeriad yn ddifrycheulyd. Gosod-