Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/38

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wyd hwynt mewn sefyllfa ddedwydd iawn, a galluogwyd hwynt â digon o nerth i sefyll eu tir, ac i gadw y 'stâd wynfydedig hon, pe buasent yn ei ddefnyddio. Ond, fel y mae yn bruddaidd yr hanes, "dyn mewn anrhydedd nid erys." Wrth wrando ar y gelyn yn lle Duw, pechasant, ac aethant yn ol am ei ogoniant ef.

G.—O'r goreu, yr wyf yn deall yn lled glir hyd y fan yma; ond pa fodd i ddeall prawf dynolryw ar ol y cwymp, dyna y dyryswch sydd ar fy meddwl yn wastad.

M.—Ti wyddost am y forwyn fu yma yn ddiweddar, yr hon a ddaeth yma trwy eiriolaeth ei mam. Gwyddai ei mam ei bod wedi colli ei charictor am onestrwydd, a'i bod yn euog o amryw fa-ladradau oddiar ei rhieni. Cwynai ei mam yn galed o'i herwydd wrth dy feistres a minnau; ac erfyniai, gyda llawer o ddagrau, am iddi gael dyfod yma i dreio adenill ei chymeriad yn mhlith pobl yn proffesu crefydd o leiaf, fel y gellid dysgwyl na byddai i neb o honynt edliw iddi ddim o'i chastiau drwg; ac ni wyddys ddarfod i neb wneuthur sarhad arni wedi ei dyfod. Pa fodd bynag, fe wariwyd pob cynghor a rhybydd a phob cyfleusdra yn ofer; oblegid ymddygodd yn annheilwng o'r ymddiried a roddwyd ynddi—aeth ymaith yn lladradaidd, gan gymeryd gyda hi yr hyn nad oedd eiddo iddi. Dyma gyflwr presenol dyn: y mae darpariaeth yn yr efengyl ar ei gyfer, y mae einioes yn cael ei gosod o'i flaen, a bygythiad marwolaeth o'i ol. Gwna yr efengyl gynygiad didwyll iddo o iachawdwriaeth gyflawn, rasol, a digonol; teilwng o'r Duw a'i trefnodd, o'r Cyfryngwr yr hwn a'i gweithiodd, ac o'r Yspryd tragwyddol, yr hwn a'i cymhwysa. Y mae yr ymwared yn cael ei esgeuluso a'i gamddefnyddio hyd yma gan y rhan fwyaf sydd yn clywed am dano—â un i'w faes ac arall i'w fasnach. Y prawf ofnadwy ydyw, pa fodd yr ymddyg dyn tuag at Fab Duw a'r efengyl, oblegid yn ol hyny yr ymddyg Duw tuag at ddyn yn y farn ac i dragwyddoldeb.

G.—Wel, dyma fi wedi deall, ac ni chollaf byth mo'r syniad.

M.—Byddai o'r goreu i ti ddeall mai creadur rheswm yn unig sydd brofedig. Y mae prawf yr angylion, y mae'n debyg, wedi pasio—rhai wedi troi allan yn ffyddlawn, ac wedi eu diogelu mewn dedwyddwch, a'r lleill yn dwyn cosp eu gwrthryfel a'u hanffyddlondeb. Fe allai mai dyn yn