Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/39

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

unig sydd yn y prawf yn awr—ac y mae dyn felly mewn gwirionedd. Goruchwyliaeth gwobr a chosp a gynwys hyny; oblegid ni chospir ond bai, ac ni wobrwyir ond rhinwedd; hyny yw, caiff anffyddlondeb ei gospi yn ol ei haeddiant, a ffyddlondeb ei wobrwyo yn llawer mwy na'i haeddiant, sef yn ol haelioni graslawn Duwdod. Y mae y prawf hwn fel y ffwrn i'r aur, a'r tawdd—lestr i'r arian; ïe, fel tân y toddydd, ac fel sebon y golchyddion; ond pwy a ddaw allan fel aur, a phwy a burir ac a gènir? Y mae ymrysoniadau Yspryd y Duw mawr â gwrandawyr yr efengyl, a'r gafael sydd gan y gwirionedd ar eu cydwybod o un tu, a llygredigaeth natur a deniadau y byd, y cnawd, a'r diafol o'r tu arall, yn cyfansoddi prawf tra phwysig. Duw yn unig a ŵyr pa fodd y gogwydd y galon ac y try yr ewyllys yn yr ymrysonfa, a thebyg yw fod yr angylion yn syllu ar hyn gyda phryder, oblegid y mae yn gof ganddynt hwy y prawf fu arnynt eu hunain. Dywed Iago nad yw Duw yn temtio neb. Gwir iawn. Ar yr un pryd y mae yn profi pawb. Noa, Abraham, a Job a ddaethant allan o'r ffwrn yn loywach nag yr aethant i mewn. Bu hir brawf ar Moses a meibion Israel yn yr anialwch am ddeugain mlynedd. "Cofia," ebe Moses," yr holl ffordd yr arweiniodd yr Arglwydd dy Dduw di ynddi y deugain mlynedd hyn, trwy yr anialwch, er mwyn dy gystuddio di, gan dy brofi, i wybod yr hyn oedd yn dy galon, a gedwit ti ei orchymynion ef, ai nis cedwit." Cawn fod Moses yn eu rhybuddio drachefn a thrachefn o'r profion pwysig oedd i'w cyfarfod. "Pan godo yn dy fysg di broffwyd, neu freuddwydydd breuddwyd (a rhoddi i ti arwydd neu ryfeddod, a dyfod i ben yr arwydd neu y rhyfeddod a lefarodd efe wrthynt) gan ddywedyd, Awn ar ol duwiau dyeithr (y rhai nid adwaenost) a gwasanaethwn hwynt; na wrando ar eiriau y proffwyd hwnw, neu ar y breuddwydydd breuddwyd hwnw; canys yr Arglwydd eich Duw sydd yn eich profi chwi, i wybod a ydych yn caru yr Arglwydd eich Duw â'ch holl galon, ac â'ch holl enaid."

G.—Diolch i chwi am y cyfryw eglurhadaeth: bwriadaf gadw yr ystyriaethau hyn ar fy meddwl; a gweddiaf, trwy gymorth, am gymorth i sefyll yn y dydd drwg, ac wedi gorphen pob peth, sefyll.

M.—Ystyria hefyd nad yw y syniad hwn yn gwrthwynebu rhad ras yr efengyl, cyfiawnhad pechadur trwy