Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/40

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ffydd, dyna efengyl. Barna y meirw wrth eu gweithredoedd, gan roddi i bob un fel y byddo ei waith ef,—dyna y prawf.

"Byddai fel hyn yn cydweithio llawer â ni ar hyd y meusydd, a chadwai ni mewn tymher dda trwy ei ymddiddanion difyrus ac adeiladol. Ni oddefai i neb o honom i arfer creulondeb at yr un o'r anifeiliaid. Pan y digwyddai i rai o honynt droseddu, trwy fyned i'r gwair neu i'r ŷd, gofynai bob amser pa un ai o fariaeth ai ynte cael bwlch a wnaeth; ac os trwy fwlch y byddai y creadur wedi myned, dywedai, Na chospwch ef, oblegid greddf y creadur ydyw cymeryd y tamaid goreu lle y gall ei gael.' Yn adeg y cynhauaf, dywedai wrthym, pan yn myned i'r gweir—gloddiau i ladd gwair, am adael i'r llyfaint ddiangc hyd y gallent. Cofus genym ei weled, pai yn cydbalu yr ardd ag ef, yn rhoddi y rhaw yn esmwyth o dan bryf genwair a ddaethai i fyny gyda'i baliad, a danfonodd ef ychydig oddiwrtho, a dywedai, Byddai yn well i ti fyned y ffordd yna, yr wyf fi yn ewyllysio i ti gael chwareu teg, ac y mae y byd mor llydan i ti ag ydyw i minnau.' Arferai ddyweyd ei fod yn bechadurus defnyddio pryf i demtio pysgodyn i lyngcu bach.'

"Yr oedd yr addoliad teuluaidd yn cael lle mawr yn y Faeldref, a byddai rhaid i bobpeth roddi lle iddo. Mrs. Humphreys fyddai yn darllen y rhan fynychaf, a hyny am y rheswm ei bod yn darllen mor dda, a byddai Mr. Humphreys yn cael y fath foddhad wrth ei gwrando. Byddai yn rhaid i'r holl deulu ddyfod at eu gilydd yn adeg y ddyledswydd, a gallaf chwanegu fod dylanwad yr addoliad teuluaidd yn fawr yn y Faeldref. Llawer gwaith ein gorchfygwyd gan ein teimladau pan y byddai Mr. Humphreys yn ein cyflwyno i ofal y Brenin Mawr." Cawn achos i sylwi ar ei weddiau teuluaidd mewn pennod arall.

"Yr oedd ei ofal yn fawr am ddydd yr Arglwydd, ac ni chaniatäai i ni wneud dim ond oedd anhebgorol angenrheidiol. Ni chaniatäai i'r morwynion adael dillad allan i sychu dros y Sabboth. Cofus genyf ei weled yn troi yn ei ol un bore Sabboth, ar ol gweled hen sach ar ben y clawdd o'r tu ol i'r tŷ, a dywedai wrth y merched nas gallai fyned ymaith tra y byddai pethau yn cael eu gadael yn y wedd hono o amgylch y tŷ."