Tudalen:Cofiant am y Parch Richard Humphreys.djvu/41

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Aeth pethau yn mlaen fel hyn yn y Faeldref am amryw flynyddoedd, heb unrhyw gyfnewidiad o bwys. Gwenai rhagluniaeth arnynt, a thywynai yr haul ar eu pabell: ond yr oedd yn rhy ddisglaer i barhau yn hir. Dechreuodd cymylau duon ymgasglu uwchben y teulu dedwydd, a gwelodd Mr. Humphreys arwyddion yn yr ystorm y byddai iddo gael esponiad yn fuan ar hen air ag sydd wedi profi ei hunan yn rhy wir, sef "Fod o'r rhai sydd a gwragedd iddynt, megys pe byddent hebddynt." Dechreuodd Mrs. Humphreys gael ei blino gan hen ddolur na bydd byth bron yn methu a chyrhaedd ei nod, sef y Cancer. Gwnaed pob ymdrech oedd yn bosibl i gael gwaredigaeth oddiwrtho, ond ni fynai y chwydd blygu i driniaethau y meddygon; ond i'r gwrthwyneb, yr oedd yn myned waeth waeth. Pan oedd Mrs. Humphreys yn dioddef fel hyn, ysgrifenodd Mr. Humphreys—tra yn aros yn Llangollen—y llythyr canlynol ati; ac o herwydd ei fod yn ddangosiad o'i deimlad didwyll ef, a'i ofal am ei chysuron, ni a'i dodwn i lawr yma.

Llangollen, Mai 1, 1851.

Fy Anwylyd,

Nid oes genyf ddim gorchymynion i'w rhoddi am y farm nac unrhyw beth arall. Nid wyr yn gofalu ond ychydig am ddim ond eich iechyd a'ch cysur chwi. Mewn perthynas i bwnc mwy pwysig o iachawdwriaeth eich enaid, hyderwyf ei fod oll wedi ei benderfynu, a'ch bod chwithau wedi dyfod i ddealltwriaeth da gyda Duw yn Nghrist ar y cwestiwn mawr, ïe, yn wir, yr unig un mawr sydd yn dwyn perthynas â'r holl hil ddynol, ond a deimlir i fod felly ond gan ychydig.Yr wyf yn teimlo yn ddigon hyderus ein bod ni, trwy ddaioni gras Duw, o nifer yr ychydig hyn; er hyny yr wyf yn brydeius rhag i mi dwyllo fy hun, fel yr ofnaf y mae llawer wedi gwneyd ac eto yn gwneyd; ond am y rhai hyny a roddasent eu hunain i fyny i Dduw y maent wedi eu derbyn a'u cymeradwyo, ac wrth gwrs yn y dwylaw goreu, ac ni chânt eu gwrthod na'u hesgeuluso: a phe baem yn teimlo yn amheus yn nghylch yr ymdrafodaeth hon rhyngom ni a'r Cyfryngwr, adnewyddwn ki drachefn a thrachefn, yn enwedig gan fod pob cymdeithas yn fuddiol i i ni ac yn ogoniant iddo ef. Ni ellwch wybod na chawn eto weled amseroedd da iawn. Sonir yn rhywle am "flynyddoedd deheulaw y Goruchaf." Fe gynyrcha sancteiddrwydd gysur yn gyffredin hyd yn oed mewn henaint. Bydded Yspryd daionus Duw yn Arweinydd, Goleuni, a Dyddanydd i chwi—yr wyf yn teimlo dymuniad angherddol i gyfranu tuag at eich dedwyddwch.—Dof adref fel y penderfynwyd ddydd Llun.—Gweddiwch drosof.

Yr eiddoch hyd angau,

RICHARD HUMPHREYS.