a'r symledd a gyfansoddent ei ragoriaethau fel pregethwr uwchben y gynnulledfa yn yr areithfa; ynghyd ag elfenau ereill ei nodwedd fel dyn ac fel Cristion, a gydgyfansoddent ei gymhwysder a'i ragoroldeb o dan yr areithfa yn yr eglwys, fel gweinidog, bugail, a phorthwr praidd Crist.
1. Yr oedd yn ofalus iawn am heddwch a thangnefedd yr eglwys yn wneuthurwr heddwch. Mawr ddymunai "heddwch Jerusalem, a llwyddiant y rhai a'i hoffai." Mynych y dywedai mai cariad yw cyfraith y tŷ, ac nad oes un gyfraith na llywodraeth i gael ei gweinyddu yn Sïon ond cyfraith a llywodraeth cariad. Ymwelodd â llawer o eglwysi yn ei afiechyd diweddaf, ac annogai hwynt i undeb, tangnefedd, a chariad uwchlaw pobpeth. Mynych yr adroddai eiriau yr apostol, "Am ben hyn oll, gwisgwch gariad,"—"bydded yn egwyddor yn y galon, yn pelydru yn y llygad, ac yn diferu oddiar y wefus, ac yn wastad yn llifo mewn gweithredoedd o gymmwynasgarwch tuag at eich gilydd."
Adroddai yn mhob man sylw a glywsai gan y Parch. W. Griffiths, o Gaergybi, mewn cyfarfod blynyddol yn Llynlleifiad, "mai o bob aderyn, y golemen sydd yn dychrynu ac yn prysuro ymaith fwyaf pan glywo sŵn saethu." "Cofiwch (meddai) bod yr Ysbryd Glân yn cael ei gyffelybu i'r golomen, ac os ewch i saethu at eich gilydd, fe gymmer y golomen nefol ei haden, ac a'ch gedy yn fuan; ysbryd cariad a heddwch yw yr Ysbryd Glân, ac nid ysbryd ymryson a therfysg, ni all fyw yn y mŵg a'r tân, a lle byddo sŵn saethu: os ydych am ei dristâu, a'i ỳru ymaith, dyma y ffordd fwyaf effeithiol a ellwch gymmeryd, saethwch at eich gilydd ac fe ymedy yn union." Cafodd yr hyfrydwch a'r fraint fawr o fwynhau heddwch eglwysig yn y Rhos, a'r Wern, dros yr ysbaid maith o ddeng-mlynedd-ar-hugain ag y bu yr eglwysi hyny o dan ei ofal; aml waith y dywedodd am danynt, Y maent heb ddysgu yr art o ymladd erioed, a gobeithio na ddysg eu dwylaw, a'u bysedd byth y gelfyddyd o ymladd a rhyfela â'u` gilydd."
2. Yr oedd yn ddoeth, pwyllog, caruaidd, a ffyddlon iawn. Am ei nodwedd fel gweinidog ysgrifenai swyddogion eglwys y Rhos fel y canlyn:—
Gyda golwg arno fel gweinidog, ymddygai yn ddoeth, a gofalai am dreulio yr amser yn y cyfarfodydd eglwysig er adeiladaeth. Byddai yn fawr rhag blino neb â meithder mewn unrhyw gyfarfod: dywedai mai gwell yw tòri y cyfarfod tra yn ei flas, nâ threulio meithder o amser,