a blino fe allai y rhan fwyaf o'r gynnulleidfa, a thrwy hyny eu difuddio. Ymddygai bob amser yn hynod o amyneddgar, pwyllog, a diduedd yn ngweinyddiad dysgyblaeth eglwysig; ond llym a phenderfynol yn erbyn troseddau cyhoeddus, pwy bynag a geid yn euog. Pan ddygwyddai anghydfod rhwng brodyr, yr oedd yn rhagori yn ei ddull a'i fedrusrwydd er dwyn y pleidiau i gymmod: anaml iawn y gwelid ef yn cyfryngu yn ofer ar y cyfryw achlysuron, "Ni fu erioed anghydfod (meddai) heb fod rhyw gymmaint o'r bai o bob tu, gwell yw ildio er mwyn heddwch yn y frawdoliaeth, er bod ar yr iawn; ochr ddiogel yw hon yna."
Dadleuai dros yr ochr a gymmerai mewn unrhyw achos ag y byddai gwahaniaeth barn yn yr eglwys arno, gydag amynedd, arafwch, ac addfwynder mawr, ac os yr ochr wrthwynebol a gai y mwyafrif, tawai, â gwen dros ei wyneb, a dywedai, "Wel, wel, gan y majority y mae mwyaf o deimladau beth bynag, yn mha ochr bynag y mae mwyaf o wybodaeth a deall." Sylwai fod yn dda ganddo nad oedd gofal eglwys Dduw ddim i fod ar ei ysgwyddau ef ei hun yn unig, ond mewn cydweithrediad â'r swyddogion. Pan ddygid unrhyw achos dyrus gerbron yr eglwys, byddai yn rhyfeddol o fanwl wrth ei osod gerbron, er ei egluro yn y fath fodd ag y gallai y gwanaf ei ddeall yn yr eglwys ei amgyffred. Wrth geryddu brawd unwaith, sylwodd mewn modd tra effeithiol, gan ddywedyd, "Ni byddaf byth yn dyfod â fflangell gyda mi i'r eglwys, ond cymmeryd y fflangell a rwymodd y dyn ei hun. Na rwgnached y troseddwr rhag STROKES y fflangell a glymodd efe ei hun. Ein Harglwydd pan yn gyru y prynwyr a'r gwerthwyr allan o'r deml, ei fflangell oedd y mân reffynau a ddygasent hwy eu hunain yno, sef y cortynau â'r rhai y rhwyment eu nwyfau."
"Arferai osod mater i lawr mewn cyfarfod eglwysig, i fod yn destun myfyrdod hyd, ac yn destun ymddyddau yn y cyfarfod nesaf, a'r Sabboth canlynol, pregethai yntau arno, gan ofalu cynnwys yr holl bethau y sylwyd arnynt, yn y bregeth; profwyd y dull hwn yn dra effeithiol i adeiladu yr eglwys mewn gwybodaeth a deall ysbrydol."
3. Yr oedd ganddo ofal neillduol am famau plant yn yr eglwys. Yr oedd ganddo rhyw fedr rhyfeddol i fyned i mewn i'w profiadau a'u teimladau. Cofia ugeiniau o honynt am y bregeth hono a gyfenwid, "Pregeth y mamau," a diamheu y bu yn fendithiol i laweroedd. Traddododd hi yn nghapel y Parch. Dr. Fletcher, yn Llundain, yn ei ymweliad diweddaf â'r brif-ddinas, ac er mor ddiffygiol oedd yn yr iaith Saesonaeg, cafodd y bregeth effeithiau anghyffredinol ar y gynnulleidfa, yr oedd y mamau yn y dyrfa yn foddfa o ddagrau. Pendefigesau parchus nid ychydig a ddeuent ato ar ddiwedd yr addoliad, i ddiolch iddo â'u dagrau. Ond yr oedd mamau bob amser yn wrthddrychau neillduol ei ofal a'i sylw gwein-