Llanbrynmair, a Mr. James Griffiths o Dŷ Ddewi, yr hwn oedd y pryd hyny yn weinidog yn Machynlleth, yn eu pregethu, yr ydym yn gwybod, yn y flwyddyn 1809; ac yr oedd amryw yn mhlith yr Annibynwyr, er ar y cyntaf yn dra hwyrfrydig, yn tueddu i roddi derbyniad iddynt; ac y mae yn ymddangos mai er cyfarfod y syniadau hyny, yn hytrach nag er gwrthweithio y golygiadau Arminaidd ar Brynedigaeth, y cyhoeddwyd y llyfr sydd yn awr dan ein sylw. Amcan Awdwr ynddo, fel y dywed ar y wyneb—ddalen, ydyw chwilio allan yn mha bethau y mae Neillduolrwydd y Prynedigaeth yn gynnwysedig. Gan olrhain y neillduolrwydd hwnw i'w elfenau, y mae yn ymgais at brofi nad oedd un digonoldeb gwirioneddol yn Aberth Crist dros y rhai a fyddant yn y diwedd heb eu cadw drwyddo, ac felly mai hollol anmhriodol ac anysgrythyrol ydyw golygu ei fod, mewn un ystyr, wedi marw dros bawb, hyny yw, dros ddynolryw yn ddiwahaniaeth. Er profi hyn, y mae yn cychwyn gyda'r syniad am natur fasnachol yr Iawn, ac yn dadleu dros y priodoldeb o gymmeryd yr " ymadroddion cyffelyb iaethol, a dynir oddiwrth achosion masnachol, megis prynu âg arian, talu dyled âg arian―y rhai a arferwyd gan yr Ysbryd Glân i osod allan ein Prynedigaeth, yn rhai addas i drosglwyddo iawn olygiadau ar y mater" ("Rhagymadrodd,” tu dal. iii); hyny yw, y mae yn amlwg, fel yr oedd efe yn deall, "iawn olygiadau " nid ar effeithiolrwydd yr iawn, neu ar sicrwydd gwaredigaeth y rhai a brynwyd o'u caethiwed, ond "iawn olygiadau " ar natur y taliad a roddwyd drostynt, er eu rhyddhau. Dyma eto ei eiriau:—" Nid rhyw beth llai, na rhyw beth o fwy, na rhyw beth arall; ond y peth ei hun oedd ddyledus arnom ni, a dalodd Iesu. . . Mae rhaid fod y taliad, neu y dyoddefaint, wedi ei gyd—raddu â haeddiant y beiau, yn ol eu rhif, eu pwys, a'u mwyhad. Er y buasai yn eisiau cael dyoddefaint o raddau anfeidrol i brynu un dyn, a hwnw heb fod yn euog o un pechod ond un: ond os yn ol yr hyn mae graddau mewn pechodau, yn ol eu rhif a'u pwys, yn ol haeddiant pechod, y dyoddefodd yr Iesu, mae hyn yn eangu ein syniadau am ei ddyoddefaint, yr hwn oedd yn cyd—raddu â haeddiant pechodau, yn eu rhif a'u pwys, a phob gradd yn galw am gosp aufeidrol, (tu hwnt i derfynau dynol.) O'r fath bentyrau o ddigofaint anfeidrol yr aeth yr lesu trwyddynt, wrth ddyoddef ein melldith ni, a hono yn cyd—raddu â rhif a phwys ein pechodau, yn ol cyfiawnder manylaf!" ("Rhagymadrodd.", tu dal. iv.) Dyma syniad arweiniol y llyfr, ar yr hwn y mae ei
Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/407
Gwedd