holl ymresymiad wedi ei sylfaenu. Er gosod ei olygiadau yn eglur ger bron ein darllenwyr, ni a ddyfynwn ychydig eto:—"Mae pedwar peth i'w hystyried.—1. Mawredd y person oedd yn prynu, yr oedd yn wir Dduw.—2. Glendid y natur ddynol, gwaed yr hon a dywalltwyd mewn undeb a'r natur ddwyfol.—3. Mawredd y dyoddefaint yr aeth danynt. Mao rhai yn meddwl fod yn rhaid cael y tri pheth yma, pe buasai dim ond un yn cael ei brynu. Diammau nad allasai un Hai na Duw brynu un; ac fod yn rhaid cael natur ddynol lan, berffaith, i farw mewn undeb â natur Duw, i brynu un. Ond mae yn gwestiwn am y trydydd peth, a fuasai yn angenrheidiol fod y dyoddefaint cymmaint; canys dylai y pridwerth fod yn gyfatebol i raddau y beiau, o ran rhif, pwys, a mwyhâd. Yr oedd Aaron yn rhifo pechodau, gan gyffesu holl anwiredd meibion Israel, a'u holl gamweddau hwynt yn eu holl bechodau (Lev. xvi. 21); megys o ran rhif a phwys, yn ol trefn rhifyddiaeth, a phwysedigaeth. Gan fod yr Ysbryd Glân yn arfer y fath eiriau i osod allan ei bethau mawrion, ni ddylem ni eu gwrthod, er mwyn hanneru y ddadl âg Arminiaid, pe byddem yn abl darlunio pethau Duw: ond rhy fyr ydyw synwyrau y ddaear hon. Ond tebygid y gallwn weled (1.) Fod cyfiawnder yn galw am gosp fwy, a dangosiad o anfoddlonrwydd mwy, mewn trefn i gael iawn, am y pump cant ceiniog, yn fwy na'r deg a deugain. Mae graddau mewn pechodau: mae rhai fel porphor ac ysgarlad. Ni fyddai achos, fe allai, yn ol cyfiawnder, i fod y dyoddefaint cymmaint i wneyd iawn dros blentyn bach, a thros Saul o Tarsus. (2.) Nid y rheol, debygid, wrth yr hon yr oedd Crist yn dyoddef, oedd fel yr aberthau gynt, sef dyoddef yr hyn a allai. Wrth ystyried anfeidroldeb Person Crist, oni ellir dweyd, er cymmaint o raddau o anfeidroldeb a ddyoddefodd, y gallasai ddyoddef ychwaneg; ïe, digon dros yr angylion syrthiedig hefyd? Gallasai, mewn syndod a pharch y dymunwn ddywedyd, yfed i fynu eu cwpan hwy, yn gystal a chwpan ei bobl yr oedd yn ben iddynt. (3.) Nid y rheol oedd iddo yn mawredd ei Berson ymddangos dan ryw boenau, ond hefyd fod yr un dyoddefaint, ac yn gyfatebol o ran grâdd, i ofynion gwreiddiol y gyfraith ar ei bobl. Pe felly, gallasai wneyd iawn heb ddyoddef yn llwyr eu melldith hwy, ond rhyw beth llai, a bod urddas ei Berson yn gwasanaethu yn lle hyny. Diammau fod urddas Person Crist, yn rhoi iddo gymhwysder i sefyll yn ein lle, ac i ddyoddef y cwbl oedd ddyledus arnom ni; ond nid i atteb yn lle cyflawniad perffaith o'r ddeddf, yn ol ei gofyniad arnom ni" (tu dal., 13, 14).