Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant y Parchedig John Jones Talsarn.djvu/409

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Eto:—Mae hyny yn dangos fod pechod yn cael ei gospi yn uffern, yn ol rhif a phwysau; megys, rhai yn cael eu curo â mwy o ffonnodiau, ac ereill â llai; ac mae hyny yn tarddu oddiwrth ofynion cyfiawn y ddeddf arnynt; ac nid ydyw yn profi nad oes rhywbeth anfeidrol yn y gosp, a eglurir trwy ychydig o ffonnodiau. Gan fod graddau y gosp am bechod yn uffern yn cyd—raddu â rhif a phwys y pechodau a wnaethpwyd, paham nad yw y ddau beth hyn yn amlwg yn y gwrth—barth, (counterpart)—1. Fod Crist wedi dyoddef mwy dros rai o'i bobl na'u gilydd; ond y cwbl oedd ddyledus i bawb o honynt, fel yr oedd gofynion y ddeddf; a rhai o honynt yn cynnwys llawer o fonnodiau; ac yn cynnwys ychydig o ffonnodiau ar ereill.—2. Ac pe buasai yn marw dros y rhai a fyddant yn uffern, buasai fonnodiau dyledus i'r rhai hyny hefyd yn disgyn arno ef. Golygir yn anrhydedd i bob cyfraith, ei bod yn cysylltu cosp gyfatebol i bob bai; ac nid yn arfer cospedigaethau direol, heb fod yn cyd—raddu â rhif a phwysau y beiau (tu dalen 15).

Ystyr hyn oll, mae yn amlwg, ydyw,—nid yn unig fod Iesu Grist wedi dioddef dros bersonau neillduol fel eu Meichniydd, a bod pechodau y rhai hyny yn cael eu cyfrif iddo, yn yr ystyr o'u bod mewn gwedd gyffredinol, yn cael eu rhoddi yn ei erbyn yn gyfreithiol, ac yntau yn cael ymddwyn tuag ato yn gyfatebol; ond fod y pechodau arno "o ran rhif, a phwys, yn ol trefn rhifyddiaeth a phwysedigaeth;"—hyny yw, y pechodau yn cael eu rhifo a'u pwyso, a bod rhyw fesur neillduol o gosbedigaeth yn ddyledus i bob pechod yn ol ei bwys, sef, yn ol ei ysgelerder; a'i fod yntau felly wedi dioddef rhyw gymmaint dros bob un arno ei hunan, a rhyw gymmaint dros bob pechod i bob un; fel, pe buasai mwy i'w hachub, neu y rhai a achubir yn fwy pechadurus, y buasai raid iddo yntau ddioddef mwy. Y canlyniad naturiol ac angenrheidiol oddiwrth hyn ydyw, nad oes digonolrwydd gwirioneddol a hanfodol yn ei aberth ond ar gyfer yr etholedigion yn unig. Y mae, weithiau, yn wir, yn llefaru fel pe byddai yn gadael y digonolrwydd i orphwys ar y gosodiad, heb son am ddioddef ychwaneg; fel, pe buasai wedi ei osod dros bawb, y byddai digon ynddo, â'r dioddefiadau yr aeth tanynt, ar gyfer pawb. "Nid oedd eisiau," meddai, gwaed o fwy ei rinwedd i brynu pawb, na'r gwaed a brynodd lawer; ond ei osod gan ewyllys Duw yn bridwerth: mae hyny yn angenrheidiol" (tu dal. 17). Ond, erbyn dodi ei amrywiol ymadroddion wrth eu gilydd, y mae yn eglur mai y cymhwysder gwreiddiol, hanfodol ynddo, fel Person dwyfol,