os caiff cyfiawnder le. Mae priodoli unrhyw ddigonoldeb arall i waed Crist, yn ddianrhydedd iddo, ac yn anysgrythyrol, yn ddychymygol, yn gwasanaethu o du Arminiaeth " ( tu dal. 33).
Yr ydym, er mwyn gosod ein darllenwyr ar dir manteisiol i ddeall y ddadl a achlysurwyd trwy gyhoeddiad y llyfr hwn, wedi ceisio gosod allan yn fanwl ac yn helaeth y golygiadau neillduol, a ddysgid gan Mr. Christmas Evans ynddo. Ac y mae yn rhaid i ni gydnabod fod y golygiadau hyny, yn ein bryd ni, y fath, fel mai y peth sydd yn ymddangos ryfeddaf i ni yw, nid fod un hen weinidog, yn mhen amryw flynyddoedd, wedi dyfod allan yn llym yn eu herbyn, ond na buasai caredigion y gwirionedd trwy yr holl wlad, ar unwaith, yn ymgynhyrfu drwyddynt, er amddiffyn gogoniant yr efengyl, a holl—ddigonolrwydd haeddiant yr hwn a ymddangosodd "i ddileu pechod trwy ei aberthu ei hun." Yr ydym yn ofni fod hyny yn arwyddo fod meddwl cryn lawer o Galviniaid Cymru, yn eu gwrth-darawiad yn erbyn Arminiaeth, ar y pryd yn tueddu yn yr un cyfeiriad a Mr. Christmas Evans, er, fe ddichon, nad oedd ond ychydig iawn wedi myned mor bell felly, ag yr oedd efe. Yr un pryd, fel y daw i'r golwg eto, ni a gawn rai ereill, yn mhen amryw flynyddoedd, yn amddiffyn yn gwbl yr un golygiad, o ran hanfod, ag y mae efe yn dadleu drosto yn y llyfr hwn.
Eithr yr oedd meddyliau amryw, erbyn hyn, yn dechreu cymmeryd cyfeiriad gwahanol, hyny yw, tu ag at y wedd gyffredinol ar farwolaeth Crist; ond ar y cyntaf yn hynod o ddistaw a gochelgar, gan wybod fod rhagfarn mawr, yn mhlith yr holl bleidiau Calvinaidd, yn erbyn pob peth a allai ymddangos fel yn dal unrhyw gyfathrach âg Arminiaeth. Hyny, ni a dybiem, a barodd i rai blynyddoedd fyned heibio cyn i ddim ymddangos trwy y wasg yn pleidio y cyfryw olygiad. Ond yn mhen amser, fe gyhoeddwyd,—" Cynnygiad gostyngedig, i Egluro yr hyn a ddysgir i ni, yn Ysgrythyrau y gwirionedd, am Ddybenion Cyffredinol a Neillduol Dyoddefaint Iesu Grist, mewn Dau Lythyr at Gyfaill, gan John Roberts, Llanbrynmair. Caerfyrddin: argraffwyd gan J. Evans, 1814." Nid ydyw hwn ond llyfryn bychan, yn cynnwys, rhwng y wyneb-ddalen a'r cwbl, ond 24 o du dalenau. Pwy oedd y cyfaill ieuanc, y cyfeiriwyd y llythyrau ato, nid ydym yn gwybod, er ein bod yn tueddu i feddwl mai y diweddar Mr. John Breese, gynt o Liverpool, ac wedi hyny o Gaerfyrddin, ydoedd. Yr oedd efe, y pryd hyny, yn wr ieuanc yn yr Athrofa yn Ngwrecsam, ac fel un genedigol